Mae Cyngor Celfyddydau Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn falch iawn o gyhoeddi darpariaeth newydd wedi'i chymeradwyo gan yr Academi Genedlaethol
ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol i gefnogi arweinwyr ysgolion i ddatblygu arweinyddiaeth greadigol o fewn eu lleoliadau ysgol eu hunain.

Nod y rhaglen yw annog hyder mewn ffyrdd newydd o weithio, arloesi, myfyrdod a gwytnwch tra hefyd yn datblygu dealltwriaeth o rôl creadigrwydd yng nghyd-destun Cwricwlwm i Gymru, y  pedwar diben a'r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth.

O fewn y rhaglen mae cyfranogwyr yn cael eu hannog i fyfyrio'n onest am eu hymarfer proffesiynol a'u cyd-destunau a nodi'r rhwystrau a allai amharu ar eu gallu i ddod yn arweinwyr creadigol.

Mae'r rhaglen wedi'i theilwra i gam dilyniant presennol pob cyfranogwr yn eu gyrfa arweinyddaeth broffesiynol.

 

Beth fydd y cynnig yn ei gynnwys:

Mae'r rhaglen yn dechrau gyda hyfforddiant deuddydd sy'n cael ei ddarparu gan y tîm Arweinyddiaeth Greadigol o fewn Cyngor Celfyddydau Cymru.

Yna, caiff pob cyfranogwr ei baru ag Asiant Creadigol, yn seiliedig ar anghenion arweinydd yr ysgol, lleoliad ac iaith yr ysgol, gan ffurfio partneriaeth waith barhaus dros gyfnod o 12 wythnos.

Bydd yr Asiant Creadigol yn gweithredu fel mentor a ffrind beirniadol, fydd yn atgyfnerthu’r egwyddorion o arweinyddiaeth greadigol gan gymryd rhan mewn deialog barhaus, gefnogol a myfyriol.

Mae cyfle rhwydweithio hanner ffordd drwy’r rhaglen i rannu cynnydd a chael cefnogaeth gan eraill ar y rhaglen.

Mae sesiwn rhannu cydweithredol olaf yn lledaenu'r archwiliadau personol ymhlith pawb er mwyn ffurfio’r posibiliad o greu rhwydwaith parhaus. Ceir manylion llawn yma.

Cyllid a chefnogaeth:

Bydd yr arweinydd o’r ysgol yn derbyn costau cyflenwi i fynychu'r hyfforddiant a chyfarfodydd myfyrio yn y canol a’r diwedd.

Bydd pob un sy'n cymryd rhan yn derbyn cymorth mentora Asiant Creadigol drwy gydol y 12 wythnos.

Nid oes arian grant uniongyrchol wedi'i dyrannu i ysgolion.

Cymhwysedd:

Mae'r ddarpariaeth hon yn bennaf ar gyfer y rhai sydd mewn swyddi arweinyddiaeth ganol neu uwch neu sy'n gobeithio bod ynddynt er ein bod yn annog ymwybyddiaeth o arweinyddiaeth ym mhob swyddogaeth.

Sut i wneud cais:

Mae cais i ymuno â'r rhaglen arweinyddiaeth greadigol ar gael isod:

Bydd y ceisiadau'n cau am 5:00yp ar16  Rhagfyr 2022.

Amserlen

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb                             16 Rhagfyr 2022 5:00yp                  
Hyfforddiant ar gyfer arweinwyr canol/uwch  30 a 31 Ionawr 2023
Digwyddiad rhwydweithio hanner ffordd drwy’r rhaglen  28 Chwefror 2023
Digwyddiad Rhannu 8 Mai 2023

                                                                                                                                         

Os oes gennych ragor o ymholiadau, cysylltwch ag un o'r tîm dysgu creadigol fel y manylir isod

Sophie Hadaway      Sophie.Hadaway@celf.cymru

Karen Dell'Armi        karen.dellarmi@celf.cymru

Rhian Haf                   Rhian.Haf@celf.cymru

NAEL logo