Mae tystiolaeth gynyddol sy'n dangos sut gall gweithgareddau creadigol gefnogi ein hiechyd a'n lles. Rydym yn gweithio gyda rhwydwaith o bartneriaid ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a'r celfyddydau i gefnogi prosiectau a sefydliadau sy'n defnyddio grym y celfyddydau i gyfrannu at Gymru Iachach. 
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth glos gyda Chydffederasiwn GIG Cymru i hyrwyddo ein cyd-flaenoriaethau. Nodir y rhain yn ein Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth fan hyn.

Ein gweledigaeth 

Mae ein gweledigaeth Celfyddydau ac Iechyd yn un lle mae Cymru yn cofleidio a hyrwyddo mynediad i'r celfyddydau a chreadigrwydd fel hanfodion iechyd a gofal da i bawb.    

Credyd llun: Gweithredoedd Dychmygol gan Cai Thomas ar gyfer y Cwtsh Creadigol.