Mae’r cynllun eisoes wedi helpu i sbarduno gyrfaoedd gwneuthurwyr ffilm nodedig o Gymru, gan gynnwys Rungano Nyoni, a aeth ymlaen i wneud ei ffilm hir gyntaf, I Am Not a Witch, a enillodd wobr BAFTA  ac a ddewiswyd i gystadlu yn yr Oscars. Mae rhai o gyfranogwyr blaenorol Beacons, Catherine Linstrum (Nuclear), Ryan Hooper a Matt Redd (The Toll), hefyd wedi cwblhau eu ffilmiau hir cyntaf yn ddiweddar.

Bellach bydd carfan newydd o wneuthurwyr ffilm dawnus yn datblygu eu gyrfaoedd creadigol yn niwydiant ffilm ffyniannus Cymru. Mae eu gwaith yn cynnwys drama gyfnod sy’n cynnig golwg newydd ar Ladis Llangollen; animeiddiad sy’n myfyrio ar yr hyn mae’n ei olygu i fod yn ifanc, yn lesbiad ac mewn cariad; a ffilm ddogfen draws-ddiwylliannol sy’n portreadu cymuned o siaradwyr Cymraeg yn Japan.

Wrth longyfarch y gwneuthurwyr ffilm llwyddiannus, meddai Alice Whittemore, Rheolwr Rhwydwaith BFI Cymru, “Rydyn ni’n rhyfeddol o falch o wneuthurwyr ffilm dawnus a diwyd Cymru. Mae’r ffilmiau eleni yn amserol a nodedig, ac yn cynnig amrywiaeth go iawn o safbwyntiau. Edrychwn ymlaen at ymuno â nhw ar eu taith a chael arddangos y storïau hyn i gynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt.”

Darllen mwy: http://www.ffilmcymruwales.com/index.php/cy/newyddion-digwyddiadau/798-gwneuthurwyr-ffilm-cymru-yn-cynnig-storiau-newydd-ac-amserol