Cydnabyddir Dawns Powys fel un o brif gwmnïau dawns cymunedol Cymru; mae ganddo enw ardderchog am ei waith pellgyrhaeddol yn y sir, o brosiectau cynhwysol a ddatblygir ar y cyd â’r cyfranogion i waith perfformio tra safonol sydd wedi’i wreiddio yn egwyddorion dysg greadigol.

Mae’r cwmni wedi anelu bob amser at ragoriaeth artistig ynghyd â pherthnasedd gymdeithasol, gan greu cyfleoedd i ystod eang o bobl o wahanol ardaloedd, oedrannau, lefelau gallu a chefndiroedd cymdeithasol gymryd rhan mewn gweithgareddau dawnsio. Rydym wedi ymroi ers deugain mlynedd i atgyfnerthu egni diwylliannol Canolbarth Cymru, gan weithio mewn partneriaeth ag artistiaid, sefydliadau, asiantaethau ac unigolion lleol i ysbrydoli a chydblethu’r gymuned leol ac ehangach ac i hybu iechyd, lles, dysg a chreadigrwydd.

Dywedodd y Cadeirydd Jennifer Owen Adams:

“Ers inni newid dair blynedd yn ôl o fod yn adran o’r awdurdod lleol i elusen annibynnol, rydym wedi bod wrthi’n gweithio’n galed i ailddiffinio ein dyfodol.  

“Roeddem am wireddu ein gweledigaeth adfywiedig gan agor byd y ddawns i fyny hyd ei eithaf, a theimlem y byddai ailfrandio’n ffordd rymus iawn o gyfleu ein dyheadau.

“Rydym am bleidio achos talent a’i ddatblygu tra’n maethu dawns er lles y ddawns ei hun yn ogystal â fel ffordd o hyrwyddo lles, cynhwysiant cymdeithasol a newid er gwell.

“Mae’r broses o ailenwi Dawns Powys wedi rhoi ffrwyn i’r creadigrwydd sydd wrth graidd y sefydliad. Mae wedi’n gorfodi ni i ystyried pa bethau sy’n llwyddo, pa bethau nad ydynt yn llwyddo, a beth rydym am ei wneud i newid tirwedd dawns a’r celfyddydau yng Nghymru a’r tu draw.”

Sefydliad elusennol yw Impelo, wedi’i leoli yn Llandrindod, sy’n awyddus i gydrannu grym gweddnewidiol dawns ar bob tu, gan greu cysylltiadau rhwng pobl o bob oedran, o bob lliw a llun, trwy fynegiant gorfoleddus. Mae’r cwmni’n darparu rhychwant o ddosbarthiadau dawnsio ar gyfer plant, pobl ifanc, oedolion, pobl hŷn a phobl ag anableddau yn ein cartref yn y Ganolfan Ddawns, lle cynigir yn ogystal ddewis eang o weithgareddau eraill ym meysydd y celfyddydau a ffitrwydd gan gynnwys Pilates, ioga, ballet a grŵp canu.   

Mae Impelo’n trefnu gweithdai dawns untro trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys achlysuron dawns i’r teulu i gyd a chyfleoedd hyfforddi i artistiaid ac ymarferwyr dawns proffesiynol, yn ogystal â chroesawu cynyrchiadau dawns a theatr gan gwmnïau sy’n ymweld â’i Ganolfan Ddawns. 

Mae’r enw newydd Impelo’n tarddu o’r ferf Ladinaidd Impello, sy’n golygu cymell neu annog, ond addaswyd y sillafu i hyrwyddo ynganiad Cymreig. Dywed y Gyfarwyddwraig Amanda Griffkin:

“Un o’r heriau mwyaf, ond pwysicaf, oedd sicrhau bod yr enw newydd yn adlewyrchu ein dymuniad y bydd yr iaith Gymraeg yn elfen annatod o’n sefydliad ni. Mae defnyddio enw sy’n deillio o’r Lladin wedi gadael inni awgrymu’r un ystyr yn y ddwy iaith. Gair newywdd yw hwn sy’n crynhoi ein dull gweithredu.  

“Rydym wedi cyffroi gan y dyfodol sy’n wynebu Impelo wrth inni ddal i archwilio’r brand gan greu sefydliad mentrus unigryw sydd â’i gymuned, y cyfranogion, rhanddeiliaid, ymarferwyr a chefnogwyr y dyfodol yn agos at ei galon.”

Dan arweiniad Griffkin, mae’r cwmni wedi arddangos uchelgeisiau mawr. Dim ond yn y tair blynedd ddiwethaf hyn mae yn agos i 50,000 o bobl wedi cymryd rhan mewn rhyw ffordd neu’i gilydd yng ngweithgareddau’r cwmni, gan gynnwys deuddeg mil a hanner o blant ysgolion mewn sesiynau gweithdy mewn mwy na 30 o ysgolion ledled Powys.

Yn 2016 lluniodd y cwmni berfformiad promenâd wedi’i ysbrydoli gan waith Roald Dahl ar achlysur canmlwyddiant ei eni. Cyflwynwyd cwmnïau dawnsio proffesiynol megis Theatr Dawns y Phoenix o Leeds, nas gwelir yn aml y tu allan i’r dinasoedd mawr, i gynulleidfaodd brwd a gwerthfawrogol yng Nghanolbarth Cymru.

Yn 2017 a 2018 fe aeth y cwmni â’i waith proffesiynol ei hun allan i deithio. Perfformiwyd Flying Atoms, darn ‘awyrol’ â’i wreiddiau yng nghwricwlwm gwyddoniaeth Cam Allweddol 2, mewn ysgolion ar hyd a lled Powys, wedyn mewn Gwyliau Gwyddoniaeth ar draws gwledydd Prydain, ac yn olaf yng Ngŵyl Ymylol Caeredin a mewn gwahanol theatrau yng Nghymru. Gwelodd mwy na 4,000 obobl un o’r 50 o berfformiadau, a chymerodd mwy na 1,100 o bobl ifanc ran yn y gweithdai a drefnwyd yng nghyswllt y sioe.

Mae mwy yn digwydd yn 2019 nag enw newydd i’r cwmni.

Datblygiad cyffrous arall yw bod Impelo wedi derbyn cyllid oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru i greu gwaith dawns proffesiynol arall ar gyfer pobl ifanc a’u teuluoedd, y tro hwn mewn partneriaeth â llu o bobl dalentog ym mhob cwr o gymunedau bydoedd gwyddoniaeth a’r celfyddydau – Coleg Imperial Llundain, Coney, Uned Hematoleg Foleciwlar MRC (y Cyngor Ymchwil Feddygol), Prifysgol Rhydychen, y Dr Anna Fenemore, Partneriaeth Gwyddoniaeth Abingdon a’r ymgynghorydd mynediad Jonny Cotsen

Ysbrydolir CELL gan fywyd yn y labordy, symudiad celloedd a phlygiadau DNA; archwiliad chwareus i ficrobioleg ar gyfer teuluoedd.

Mae’r cynhyrchiad yn cynnwys set chwyddadwy sy’n dod yn fyw ac yn symud, gan wneud i gynulleidfaoedd ryfeddu at rym y corff, ei gastiau rhyfedd a’i dirweddau cudd a gadael i bobl ifanc ddarganfod y byd bywhaol y tu mewn i’w cyrff; bydysawd sy’n llai na thywodyn.

Ymhelaetha Griffkin ar hyn:

“Edrychodd ein sioe ddiwethaf Flying Atoms allan ar y bydysawd, gan esbonio bod y sêr sy’n bodoli yn fwy niferus na’r holl ronynnau tywod sydd ar holl draethau ein byd. Mae CELL yn syllu at, a’r tu mewn i’r byd microscopig, gan ddechrau o’r ffaith bod un tywodyn yr un faint â 5,000 o gelloedd dynol. Byddwn yn hoelio sylw’r dychymyg, yn rhoi bodolaeth gorfforol i gysyniadau gwyddonol ac yn hyrwyddo myfyrdod gofalgar ynghylch y corff dynol fel rhwydwaith cymhleth o gelloedd sy’n gwneud tyfiant a salwch ill dau’n bosibl.”

Er bod cofnodion yn brin ar ddeugain mlynedd gyntaf y cwmni, mae’n amcangyfrif ei fod wedi effeithio ar fywydau 100,000 a mwy o bobl dros y cyfnod hwnnw, sy’n dipyn o gamp mewn ardal mor wledig â hon. Dywed Griffkin:

O’n cartref ni yng Nghanolbarth Cymru rydym wedi dod yn rhan o we ac adeiledd bywyd ers 40 mlynedd. Rydym wedi cydrannu grym gweddnewidiol dawns ar bob tu, gan greu cysylltiadau rhwng pobl o bob oedran, o bob lliw a llun, trwy fynegiant gorfoleddus. Ein cenhadaeth heddiw yw cysylltu ac ysbrydoli mwy byth o gymunedau a sefydliadau trwy lawenydd y ddawns gan rymuso eu chwilfrydedd a’u huchelgais a dysg gydol oes.

A chanddo uchelgeisiau mor fawr a thîm mor ymroddedig, mae rhagolygon y ddeugain mlynedd nesaf yn edrych yn obeithiol dros ben i gwmni Impelo.

Gellir cael rhagor o fanylion ynghylch gweithgareddau’r cwmni ar impelo.org.uk