Y cyntaf o’r tri yw Steve Davies, Cyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Addysg, Llywodraeth Cymru, a fydd yn siarad ar Greadigrwydd yn y Cwricwlwm i Gymru – ac yn amlinellu sut y mae rhaglen Dysgu Creadigol Trwy’r Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyfrannu at a pharatoi ysgolion ar gyfer y cwricwlwm cenedlaethol newydd i Gymru a fydd yn cael ei lansio yn ddiweddarach y mis hwn.

Yr ail siaradwr yw Bill Lucas, Athro Dysg a Chyfarwyddwr y Centre for Real-World Learning (CRL) ym Mhrifysgol Caerwynt. Ef yw datblygwr y 5 arfer creadigol y meddwl – sylfaen y bedagogi greiddiol sy’n sylfaen ar gyfer rhaglen Dysgu creadigol trwy’r celfyddydau.  Enw ei sgwrs yw: “Beth yw creadigrwydd a pha ffurf sydd arno yn y cyd-destun addysgiadol”.

Y trydydd siaradwr yw Carlos González-Sancho o Gyfarwyddiaeth Addysg a Medrau’r OECD, a fydd yn siarad ynghylch “Mesur cynydd mewn creadigrwydd” ac yn trafod cyfraniad Cymru I raglen ryngwladol yr OECD, sef cynllun sy’n cynnwys dros 17,000 o fyfyrwyr, 650 athro a 330 ysgol mewn 11 gwlad.

Gan siarad heddiw, dywedodd  Sian James, Rheolwr Rhaglen Dysgu creadigol trwy’r celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch tu hwnt o fedru croesawu tri siaradwr o fri i’r seminar.

“Fel yr y’m ni wedi gweld eisoes yr wythnos hon, mae’r rhaglen dysgu creadigol hon yn ymwneud â mwy na dim ond gwella mynediad i’r celfyddydau mewn ysgolion. Mae’n ymwneud â harneisio’r celfyddydau a defnyddio technegau creadigol i drawsnewid addysgu a dysgu ar draws y cwricwlwm cyfan, a gwella cyrhaeddiad ym meysydd llythrennedd a rhifedd. 

“Erbyn hyn mae mwy na 100,000 o ddisgyblion wedi elwa o’r rhaglen, ac rydym eisoes wedi dechrau gweld bod ein dysgwyr, wrth inni feithrin a datblygu eu creadigrwydd, yn cymryd camau at gyflawni eu potensial academaidd a thyfu’n unigolion mwy cyflawn. Rydym yn cau’r bwlch rhwng y disgyblion sy’n perfformio gorau a’r rhai sy’n perfformio gwaethaf. Mae hyn yn deyrnged i waith gwych yr holl athrawon, gweithwyr proffesiynol creadigol a dysgwyr sydd wedi cymryd rhan.”

Mae’r Ŵyl Ddysgu Creadigol hon yn cael ei chynnal rhwng 2 a 6 Ebrill yn y Senedd, Portland House a Chanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd. Mae athrawon, artistiaid a disgbylion o bob cwr o Gymru o Ysgol Pendalar, Caernarfon i Ysgol Gynradd Mount Stuart Caerdydd wedi dod ynghyd er mwyn dangos pa mor effeithiol yw hi i ddod â chelf a chreadigrwydd i’r dosbarth a rhoi cyfle i ymwelwyr glywed o lygad y ffynnon ynghylch pwysigrwydd gweithio gyda’n gilydd.