Mae Dewch i ddathlu! Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau yn gyfres o ddigwyddiadau rhad ac am ddim fydd yn cael eu cynnal rhwng 2 a 6 Ebrill yng Nghaerdydd. Bydd yn tynnu sylw at holl feysydd y rhaglen; Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol a Chynnig y Celfyddydau ac Addysg Cymru Gyfan gan gynnwys prosiectau Cydweithio Creadigol a gweithgarwch Rhwydweithiau Rhanbarthol ar gyfer y Celfyddydau ac Addysg.
Bydd enghreifftiau fydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd dod â’r celfyddydau a chreadigrwydd i’r ystafell ddosbarth yn cynnwys trafodaethau, gweithgareddau byw a rhyngweithiol, hyfforddiant ar ddysgu creadigol, perfformiadau a gwaith arddangos gan roi cyfle i ymwelwyr ymgysylltu’n uniongyrchol â’r gwaith sy’n cael ei gyflawni ledled Cymru.
Heddiw, dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC:
“Erbyn hyn mae “Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau – cynllun gweithredu i Gymru 2015-2020”, gyda chefnogaeth ariannol oddi wrth Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, wedi cyrraedd mwy na 70 y cant o ysgolion yng Nghymru.
“Mae creadigrwydd yn gwbl ganolog i’n cwricwlwm newydd trawsnewidiol. Dyma pam y bo’r Celfyddydau Mynegiadol yn un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad ac un o’r pedwar pwrpas sydd gan y cwricwlwm – cefnogi ein plant a’n pobl ifanc i fod yn fentrus, yn gyfranwyr creadigol ac yn barod i chwarae rhan lawn yn ein bywyd a’n gwaith.
Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle penigamps i holl ysgolion Cymru ddechrau ar y broses tuag at integreiddio o fewn eu gwaith yr elfennau creadigol pedwar amcan Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl, Cynllun gweithredu 2017-21.”
Hefyd, dywedodd Sian James, Rheolwr Rhaglen Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau:
“Mae’r rhaglen dysgu creadigol hon yn ymwneud â mwy na dim ond gwella mynediad i’r celfyddydau mewn ysgolion. Mae’n ymwneud â harneisio’r celfyddydau a defnyddio technegau creadigol i drawsnewid addysgu a dysgu ar draws y cwricwlwm cyfan, a gwella cyrhaeddiad ym meysydd llythrennedd a rhifedd.
“Erbyn hyn mae mwy na 100,000 o ddisgyblion wedi elwa o’r rhaglen, ac rydym eisoes wedi dechrau gweld bod ein dysgwyr, wrth inni feithrin a datblygu eu creadigrwydd, yn cymryd camau at gyflawni eu potensial academaidd a thyfu’n unigolion mwy cyflawn. Rydym yn cau’r bwlch rhwng y disgyblion sy’n perfformio gorau a’r rhai sy’n perfformio gwaethaf. Mae hyn yn deyrnged i waith gwych yr holl athrawon, gweithwyr proffesiynol creadigol a dysgwyr sydd wedi cymryd rhan.”
Bydd y digwyddiad hwn yn darparu llwyfan i arddangos holl waith rhagorol y rhaglen. Bydd athrawon, artistiaid a dysgwyr o bedwar ban yn dod at ei gilydd i ddangos y gwahaniaeth y gall dod â’r celfyddydau a chreadigrwydd i’r ystafell ddosbarth ei wneud a sut mae’n cefnogi’r ffyrdd amrywiol mae dysgwyr yn dysgu, ac yn rhoi cyfle i ymwelwyr glywed o lygad y ffynnon am gyffro gweithio’n fwy cydweithredol. Caiff y digwyddiad ei gynnal mewn gwahanol leoliadau ym Mae Caerdydd, gan gynnwys y Senedd, Portland House a Chanolfan Mileniwm Cymru.