Bydd pob un o’r timau sydd y tu ôl i’r ffilmiau byr nawr yn mynd drwy broses ddatblygu gyda chymorth, cyn iddyn nhw gyflwyno eto ym mis Mawrth am hyd at saith o ddyfarniadau cyllid cynhyrchu.

O storïau rhamant cyfnod cwiar i gomedi dywyll swrrealaidd ar thema Brexit, mae’r detholiad hwn o ffilmiau byr yn adlewyrchu lleisiau amrywiol a gweledigaethau eang y doniau sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru.

Meddai Alice Whittemore, Rheolwr RHWYDWAITH Talent Cymru y BFI: "Rwy’n teimlo mor gyffrous ynglŷn â’r amrywiaeth o leisiau sy’n cael eu cynrychioli yn y casgliad hwn o brosiectau; yn enwedig gan y ffaith bod mwy na’u hanner yn cael eu cyfarwyddo gan fenywod. Mae’r rhestr fer yn rhoi sylw i storïau LGBTQI, yn hyrwyddo’r Gymraeg ac yn grymuso doniau creadigol rhyngddisgyblaethol i gynnig ymagwedd weledol gref a syniadau newydd i gyfrwng ffilm. Drwy eu cefnogi drwy’r cyfnod datblygu newydd hwn, bydd y gwneuthurwyr ffilm yn cynyddu hyder yn eu gweledigaeth, wrth i bob un ohonyn nhw ddewis mynegi eu hunaniaeth Gymreig mewn ffordd unigol iawn."

 

Dyma brosiectau’r rhestr fer:

 

Dolly

Awdur/Cyfarwyddwr: Mac Nixon

Cynhyrchydd: Ed Casey

Mae merch chwe oed, sy’n eofn ac aeddfed am ei hoed, yn crwydro strydoedd ei thref ddiwydiannol yng Nghymru, yn chwilio’n daer am ei chath goll cyn i’r diwrnod ddod i ben.

Ffantasmagoria

Cyfarwyddwr: Hanna Jarman

Awduron: Hanna Jarman, Mared Jarman

Cynhyrchydd: Alice Lusher, Ie Ie Productions

Ffilm gyffro seicolegol yn y Gymraeg a’r Saesneg sy’n cyfosod clyw-ddisgrifiad a lluniau gweledol i archwilio cymhlethdodau rhithweledigaethau arswydus sy’n cael eu gweld gan fenyw ifanc sydd â Syndrom Charles Bonnet.

Father of the Bride

Awdur: Rhys Marc Jones

Cynhyrchydd: Alexander Polunin

Nid peth hawdd yw i unrhyw un roi araith Gwas Priodas ym mhriodas ei frawd, ond dyna y mae’n rhaid i Christian wneud ar ôl cael cynnig lletchwith gan dad y briodferch.

Fly

Awdur/Cyfarwyddwr: Zillah Bowes

Menyw sengl o’r ddinas a sy’n mynd i brynu ci gan ffermwr mynydd priod yng nghefn gwlad canolbarth Cymru.

Jelly

Awdur/Cyfarwyddwr: Sam O'Rourke

Mae Kerry wedi diflasu. Mae bywyd beunyddiol y dref fach hon yn ei mygu. Ond wedyn, un diwrnod, mae’n dilyn llwybr ac yn dod o hyd i ddihangfa danddaearol sy’n llawn o jeli, gemau bwrdd a gobaith.

Leaf boat

Awdur/Cyfarwyddwr: Efa Blosse Mason

Cynhyrchydd: Amy Morris, Winding Snake Productions

Ffilm fer wedi’i hanimeiddio sy’n archwilio’r llawenydd a’r ofn sydd i’w brofi yn nyddiau cynnar perthynas.

Men I Trust

Awdur/Cyfarwyddwr: Thomas Chetwode-Barton

Cynhyrchydd: Jenna Cedici

Drama ramantus dywyll sy’n adrodd stori rhywedd, ysbrydion ac egin-gariad rhwng dau fachgen.

MOTION SICKNESS

Awdur/Cyfarwyddwr: Nan Moore

Cynhyrchydd: Bethan Jones

Ar fws dros nos ar y ffordd adref i Gymru, mae Lili yn ceisio dyfalu a yw’r gyrrwr yn gyn-garcharor. Ond a all ef ddysgu gwers iddi am faddeuant?

The Pit

Awdur/Cyfarwyddwr: Leyla Pope

Cynhyrchwyr: Sophie Francis, Greg Mothersdale

Mae ffoadur ifanc o Syria yn ymweld â Big Pit, amgueddfa lofaol yng Nghymru, a chaiff ei gorfodi i wynebu trawma y mae’n ceisio ei anghofio.

SALLY LEAPT OUT OF THE WINDOW LAST NIGHT

Awdur/Cyfarwyddwr: Tracy Spottiswoode

Cynhyrchydd: Kathy Speirs, Up Helly Aa

Iwerddon, 1788. I ddianc rhag ffawd cynllun eu teuluoedd ar eu cyfer, mae dwy ddynes yn mynd yn groes i gonfensiwn ac yn creu sgandal yn y gymdeithas drwy redeg i ffwrdd gyda’i gilydd. Mae’n seiliedig ar hanes gwir Ladis Llangollen.

Takeshi

Awdur/Cyfarwyddwr: Griff Lynch

Ffilm ddogfen yn y Gymraeg a Japanaeg sy’n dilyn Takeshi Koike ar ei daith i gofleidio diwylliant Cymru wrth iddo ddysgu a darlithio yn Tokyo.

 

Mae cynllun Beacons, sydd wedi’i gyllido drwy RWYDWAITH Talent Cymru BIF, Ffilm Cymru Wales, yn buddsoddi mewn Awduron, Cyfarwyddwyr a Chynhyrchwyr addawol o Gymru i ddatblygu lleisiau beiddgar ac unigryw, archwilio ffurfiau amrywiol ar adrodd storïau’n sinematig, a sefydlu gyrfaoedd llewyrchus fel gwneuthurwyr ffilmiau hyd llawn.

Mae ffilmiau byr a gynhyrchwyd yn flaenorol drwy gynllun Beacons yn cynnwys This Far Up gan Ewan Jones-Morris, a enillodd y Ffilm Fer Orau yng ngwobrau BAFTA Cymru 2017, a ffilm gyffro hanesyddol Medeni Griffiths, Beddgelert, a ddarlledwyd ar S4C ym mis Tachwedd 2017. Cafodd Salam, ffilm fer Claire Fowler a gynorthwywyd drwy RWYDWAITH Talent Cymru y BFI, ei dangos am y tro cyntaf yn Tribeca yn 2018, cyn cael ei dewis ar gyfer Gŵyl Ffilm BFI Llundain.

Mae’r gwneuthurwyr ffilm o Gymru a aeth yn eu blaen i greu eu ffilm hir gyntaf gyda Ffilm Cymru ar ôl derbyn cyllid Beacons yn cynnwys yr Awdur-Gyfarwyddwr a enillodd wobr BAFTA, Rungano Nyoni (I Am Not a Witch, a ddewiswyd yn gynnig Prydain ar gyfer Gwobr Oscar i’r Ffilm Iaith Dramor Orau), Catherine Linstrum (Nuclear), a Ryan Hooper (The Toll).