Merch sy’n byw ar drothwy’r Eisteddfod sydd wedi cipio Ysgoloriaeth Artist Ifanc, Sir Conwy 2019. Dyfarnwyd y £1,500 a roddir gan Gyfeillion yr Academi Frenhinol Gymreig, Conwy, i artist  amlgyfrwng o Ddolgarrog.

Mae gwaith Hannah Cash, sydd newydd raddio mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol St John, Caerefrog, yn cyfuno darlunio, coreograffi a ffilm.

Roedd y detholwyr - yr artist Manon Awst, y curadur annibynnol Bruce Haines a’r arbenigwraig ar grefft a dylunio Teleri Lloyd-Jones yn unfryd y dylid dyfarnu’r ysgoloriaeth i’r artist ifanc.

Meddai Bruce Haines: Mae Hannah Cash yn gweithredu yng nghanol gwe ryngddisgyblaethol ddiddorol o weithgarwch. Mae’n berfformwraig a sinematograffydd, yn gyfarwyddwraig a choreograffydd, yn canfod lleoliadau ac yn archifydd iddi hi ei hun. Mae’r cyrff sy’n cydblethu mewn tirwedd yn drosiad sydd, yn hanesyddol, yn cynnig ffynhonnell gyfoethog o ddeunydd sydd i’w canfod mewn amgueddfeydd ledled y wlad, o baentiad o’r 18fed ganrif i ffotograffiaeth ar ddechrau’r 20fed ganrif, cerflunwaith, ac arbrofion cynnar ym maes celf fideo yn y 1980au.

“Nid oes gennym amheuaeth y caiff Hannah Cash ei grymuso gan y wobr hon i fwrw ymlaen i wireddu ei breuddwydion gyda chymysgedd hanfodol o ddelfrydiaeth ac ymarferoldeb. Cyd-ddigwyddiad braf oedd darganfod ar ddiwedd y broses ddethol ei bod yn hanu o bentref ychydig filltiroedd yn unig o leoliad maes yr Eisteddfod yn Nyffryn Conwy. Edrychwn ymlaen at weld rhagor o’i gwaith ym mha bynnag ffurf yn y blynyddoedd sydd i ddod ac rydym yn sicr y daw’r addewid sydd i’r hyn a gynigir gan ei gwaith yn yr Eisteddfod yn Llanrwst i fod yn rhan annwyl o’i hanes ei hun.”

Nod Hannah Cash yw dilyn cwrs MA mewn Celfyddyd Gain neu’r Ddelwedd Symudol. Yn y cyfamser mae’r artist ifanc yn awyddus i ddysgu mwy am symud a dawns.

“Rwyf wedi bod yn cydweithio efo fy ngefeilles Jasmine, sy’n ddawnswraig, drwy ddatblygu ac arbrofi efo symud yn y tirlun, gan ddatblygu diddordeb hir dymor mewn dawns. Mae hwn wedi symud fy ngwaith i gyfeiriadau cyffrous a newydd.

“Mae fy ngwaith yn archwilio symudiad y corff ac yn ymwneud â mynd i’r afael yn ffisegol o fewn tirlun. Mae’n archwilio’r cyfarfod rhwng darlunio, coreograffi a ffilm er mwyn ymchwilio’r ffurfiau ar feddwl, teimlo a chyffwrdd. Mae’r ymdriniaeth o greu ffilm fel gludwaith.

“Fy mwriad o’r cychwyn oedd dychwelyd adref i Gymru, ac adeiladu ar yr hyn sy’n digwydd ym myd y celfyddydau yn yr ardal ac amlygu harddwch tirwedd Eryri drwy fy ngwaith ffilm.”

Mae gosodwaith fideo’r enillydd Hannah Cash ‘Tirwedd’ i’w weld yn Arddangosfa Agored Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.

Eisoes mae rhai o orielau Cymru wedi mynegi didordeb yng ngwaith Hannah Cash.

Ysgoloriaeth Artist Ifanc

Dyfernir yr ysgoloriaeth i'r ymgeisydd mwyaf addawol er mwyn ei alluogi i ddilyn cwrs mewn ysgol neu goleg celf cydnabyddedig neu fynychu dosbarthiadau meistr. Mae’r ysgoloriaeth yn agored i'r sawl sydd dan 25 oed ar 31 Awst. Disgwylir i'r ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer baratoi portffolio a chyflwyno cais yn esbonio sut y bwriedir defnyddio'r ysgoloriaeth. Ystyrir dangos y gwaith a gyflwynwyd yn Y Lle Celf. Yn ogystal, ystyrir cynnig gofod i enillydd yr ysgoloriaeth yn Lle Celf yr Eisteddfod ganlynol.

Gwireddir Y Lle Celf mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru.