Daw’r cyhoeddiad yn dilyn ymarfer i fapio defnydd y Gymraeg yn y celfyddydau a phenodi Einir Sion i swydd newydd gyda Chyngor y Celfyddydau, sef Ysgogydd y Gymraeg.  Y bwriad yw llunio’r strategaeth newydd mewn cydweithrediad â’r sectorau celfyddydol a ieithyddol gan annog trafodaethau adeiladol fydd yn arwain at weithredoedd pell-gyrhaeddol.

Bydd Einir Sion, Ysgogydd y Gymraeg, yn cynnal nifer o sesiynau trafod er mwyn i unigolion a sefydliadau gael cyfle i gyfrannu syniadau i’r gwaith o lunio’r strategaeth.

Dywedodd Einir:

“Mae’n allweddol bod y strategaeth hon yn cael ei llunio mewn modd agored, adeiladol a chyfranogol. Byddwn yn cynnal cyfres o sesiynau trafod byrion a fydd yn canolbwyntio ar weithredoedd cadarnhaol yn y celfyddydau. Nid llwyfan i gwyno fydd hon ond yn hytrach cyfle i drafod y dulliau gorau ar gyfer creu newidiadau hanfodol.”

Mae Einir Sion, Ysgogydd y Gymraeg, yn cynnal nifer o sesiynau trafod er mwyn i unigolion a sefydliadau gael cyfle i gyfrannu syniadau i’r gwaith o lunio’r strategaeth.

Bu’r sesiynau hyd yma yn drafodaeth adeiladol a diddorol. Mae gwahoddiad yn awr i ymuno â'r drafodaeth nesaf a gynhelir ar ddydd Mercher, 6 Ebrill 2022. 

Testun y sesiwn drafod olaf am y tro ar gyfer Strategaeth y Gymraeg a’r Celfyddydau fydd, ‘Ehangu cyfranogiad mewn cydestun Cymraeg yn ddiwyllianol a chelfyddydol’.

Bydd y sesiwn yn cael ei harwain gyda Einir Sion, Ysgogydd y Gymraeg, ac Andrew Ogun, yr Asiant er Newid o fewn y Cyngor Celfyddydau. Bydd y drafodaeth yn gofyn am ddehongliad o’r rhai sy’n anodd eu cyrraedd yng Nghymru yn ogystal a dulliau ymgysylltu ac ehangu cyfranogiad yn ddiwyllianol a ieithyddol.

Yn ol yr arfer o fewn y sesiynau yma, gofynwn am drafodaeth agored, cadarnhaol a theg sy’n canolbwyntio ar syniadau rhagweithiol yn hytrach na chwyno. Bydd y ffenest gofrestru yn cau diwrnod cyn y digwyddiad.

Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal yn ddwy-ieithog a bydd cyfieithu ar y pryd ar gael. Rydym eisiau clywed lleisiau pobl sy’n siarad a dysgu Cymraeg ond rydym hefyd eisiau sicrhau ein bod yn clywed lleisiau sydd ddim ar hyn o bryd yn siarad yr Iaith. Mae barn a phrofiad pawb yn allweddol ar gyfer y Strategaeth hon.

Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael a rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion hygyrch yn y ffurflen cofrestru.

Cofrestrwch yma i ymuno y sesiwn nesaf.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu.