Shwmae! Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi lansiad “Prosiect Cydlynwyr Cymorth Llanymddyfri”. Estynnwn wahoddiad cynnes i’r gymuned gyfan ymuno â ni ddydd Gwener, 19 Ebrill (11am – 2pm) a dydd Sadwrn, 20 Ebrill (10:30am – 1:30pm) yn Sgwâr y Farchnad yn Llanymddyfri ar gyfer digwyddiad cymunedol bythgofiadwy.

Dewch i ddarganfod a chofrestru ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau cymunedol wedi’u cynllunio i gyfoethogi a chefnogi’r gymuned leol, gan gynnwys y Clwb Cinio, Cwrs Heneiddio’n Dda, Gweithdai Caffi Trwsio, Gardd i’w Rhannu, Gwersi Coginio ar Gyllideb, Dosbarthiadau Cymraeg i Ddechreuwyr, a Sinema’r Gymuned.

Ac nid dyna'r cyfan! Dewch i siarad â chynrychiolwyr o 11 o sefydliadau a darparwyr gwasanaeth (Nacro Connecting Carmarthenshire, Nacro Housing Related Support, Papyrus, Adferiad – Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Sir Gaerfyrddin, CAVS, Rhwydwaith Ffermio Cymunedol, Age Cymru, Canolfan Ieuenctid Gymunedol Llanymddyfri, Tîm Multiply Coleg Sir Gâr, Bwrlwm, Eiriolaeth Gorllewin Cymru), ochr yn ochr â threfnwyr gwyliau a digwyddiadau lleol. Archwiliwch gyfleoedd gwirfoddoli sy'n gysylltiedig â gweithgareddau a gwyliau cymunedol a dod o hyd i ffyrdd o gael effaith ystyrlon yn eich cymuned.

Disgwyliwch gerddoriaeth fywiog a pherfformiadau difyr gan artistiaid dawnus o Gymru, a’r cyfan yn creu awyrgylch o lawenydd a dathlu.

Dewch i gwrdd a chysylltu â'r ddeuawd ddeinamig y tu ôl i'r prosiect, Maggi Swallow a Tiago Gambogi, Cydlynwyr Cymorth Llanymddyfri. Byddant yno i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y gweithgareddau neu i gynnig cefnogaeth i'ch digwyddiadau eich hun yn Llanymddyfri, Llangadog, Myddfai, Cilycwm, a'r pentrefi cyfagos.

Edrychwn ymlaen yn eiddgar at eich croesawu ar 19 a 20 Ebrill. I gael y wybodaeth ddiweddaraf, ymunwch â'n rhestr bostio drwy gysylltu â Maggi Swallow (llandovery.lesc@gmail.com) neu Tiago Gambogi (llandovery.lcasc@gmail.com).

Mae’r digwyddiad hwn yn bosibl gyda chefnogaeth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Cyngor Tref Llanymddyfri, Nacro Connecting Carmarthenshire, a LYCC.

Dewch inni ddod at ein gilydd a chofleidio ein holl gysylltiadau cymunedol yn lansiad Prosiect Cydlynwyr Cymorth Llanymddyfri! Diolch yn fawr!