Gyda dyddiau i fynd cyn agoriad swyddogol Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan,  mae ymgyrch gerddoriaeth ddigidol #calonlan yn annog pobol yng Nghymru, Japan a thu hwnt i ymuno yn y canu. Yn ogystal a cefnogi ymgyrch tîm Rygbi Cenedlaethol Cymru mae #calonlan sy’n mynd yn fyw heddiw ar wefan www.calonlan2019.com yn ymateb i’r croeso twymgalon mae Cymru yn ei dderbyn yn Japan ac am helpu i godi proffil Cymru yn y byd.

Mae'r ffilm yn rhoi cipolwg o'r diwylliant sy’n sail i rygbi yng Nghymru. Mae croeso i’r wasg ddefnyddio’r ffilm a’r trac sain am ddim.

Mei Gwynedd yw’r cerddor sy’n gyfrifol am y fersiwn newydd a galwodd am help Côr y Gleision, côr tîm rygbi'r Gleision Caerdydd a Zac Mather, CHROMA, i ennyn cefnogaeth i'r tîm yn Japan, dan arweiniad artistig Griff Lynch.

“Rwyf wedi mwynhau pob eiliad o'r cyfle hwn i chwistrellu egni newydd i un o'n hemynau mwyaf poblogaidd. Gobeithio bydd yn taro tant gyda phobl o bob oed.” Meddai Mei Gwynedd

Greddf y tîm a'r genedl i ganu mewn harmoni sydd wedi ysbrydoli ymgyrch #calonlan. Gwnaeth ein tîm rygbi cenedlaethol fwynhau gwers ganu i ddysgu Calon Lân yn angerddol gan Feistr Opera Cymru, Syr Bryn Terfel, cyn gadael am Japan.


https://twitter.com/WelshRugbyUnion/status/1171331167485927425

Byddant yn sicr yn mwynhau'r gefnogaeth anhygoel o Gymru.

Bydd miloedd o gefnogwyr rygbi Cymru'n ymweld â Japan yr hydref hwn, a llawer ohonynt yn canu'r emyn poblogaidd, Calon Lân i gefnogi'r tîm yn Japan.

“Mae'n wahoddiad i bobl Cymru, Japan a'r byd fwynhau a chanu ein hemyn rygbi answyddogol," meddai'r cynhyrchydd, Glenda Jones. “Rydym yn annog pobl i fanteisio ar y cyfle hwn i ddangos eu cefnogaeth gan fwynhau prif ddiddordeb arall y genedl, cerddoriaeth. P’un a ydych gyda'ch teulu, ffrindiau, ffrindiau dosbarth, clybiau rygbi, corau neu ar eich pen eich hun; gallwch gyd-ganu gyda thrac karaoke #calonlan ardderchog Mei Gwynedd.”

Gall pobl o Japan a phedwar ban byd sydd wedi’u cynhyrfu gan brydferthwch Calon Lân ymuno yn y canu hefyd drwy wefan ymgyrch karaoke #calonlan: www.calonlan2019.com

Mae Japan wedi rhoi croeso mawr i Gymru wrth baratoi ar gyfer Cwpan y Byd.

Mae gwaith diwylliannol ac addysgol Undeb Rygbi Cymru yn ystod y ddwy flynedd diwethaf gyda dinasoedd Oita a Kitakyushu wedi codi proffil Cymru yn y meysydd pwysig hyn, ac mae'n ennyn cefnogaeth i’r tîm wrth i'r ymgyrch ddatblygu. Gwnaeth miloedd o bobl a phlant ganu croeso trawiadol i'r tîm yn Kitakuyshu, Japan. Mae hyd yn oed injans tân, bysys ac ambiwlansau yn Kitakyushu yn arddangos negeseuon pob lwc yn Gymraeg i Gymru, eu hail dîm mabwysiedig.

Yn ôl Eluned Hâf, Cynhyrchydd Gweithredol a Phennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:

“Hysbyseb ddiwylliannol yw #calon lân ar gyfer cenedl fechan sydd â chalon fawr. Mae'r geiriau'n brolio rhinweddau hapusrwydd, gonestrwydd, llesiant a haelioni – gwerthoedd sydd wrth wraidd ein bywydau diwylliannol a dinesig.

Mae ein diwylliant wedi'i fagu yn ein cymunedau a'i ymwreiddio yn ein gwerthoedd cymunedol. Mae cerddoriaeth a diwylliant yn rhoi hwb i ysbryd a dyheadau ein cenedl. Gelwir hyn yn 'codi hwyl'.

Pan fydd y rygbi'n dechrau, bydd y tir hwn yn dod yn fyw, fel y gwna bob amser, trwy gân. Rydym eisiau dangos sut mae pobl, ysgolion, bandiau a chorau, yn y gogledd a'r de, yn dechrau canu'n reddfol mewn harmoni, a rhannu hyn â'r byd.”