Yn draddodiadol, mae Cyngor y Celfyddydau wedi cyflawni proses o’r enw ‘Yr Adolygiad Buddsoddi’, sy’n ystyried sut y mae’n rhannu cyllid â  sefydliadau allweddol, bob pum mlynedd. Cynhaliwyd yr Adolygiad diwethaf yn 2015 pan ddewiswyd Portffolio o 67 o gwmnïau i dderbyn cyfran o’r £28.5 miliwn oedd ar gael. Mae “Portffolio Celfyddydol Cymru” yn cynnwys sefydliadau o bwys rhyngwladol fel Canolfan Mileniwm Cymru, canolfannau lleol mawr fel Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth a Chanolfan Grefft Rhuthun, a sefydliadau mwy cymunedol eu natur fel Plant y Cymoedd a Chelf ar y Blaen.

Bwriadwyd cynnal Adolygiad yn 2020, ond fe’i gohiriwyd yn sgil y pandemig. Nawr mae Cyngor y Celfyddydau wedi ailgydio yn yr Adolygiad Buddsoddi ac mae’n ymgynghori ar broses sydd wedi newid yn sylweddol a fydd yn agor am geisiadau yn Ionawr 2023.

Byddai’r model newydd arfaethedig yn golygu proses ymgeisio symlach, gan symud oddi wrth ariannu ‘portffolio’ o gwmnïau i gyfeiriad darparu cymysgedd o gyllid refeniw a phrosiect a hynny'n aml-flwyddyn. Yn hytrach na’r trefniant ariannu traddodiadol bob pum mlynedd, cynigir ariannu sefydliadau fesul tair blynedd, gyda’r opsiwn o dair blynedd pellach yn dibynnu ar berfformiad. 

Byddai’r model ariannu yma’n cyd-fynd â rhaglenni eraill Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n cael eu hariannu gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Mae tipyn wedi newid ers ein Hadolygiad Buddsoddi diwethaf yn 2015. Rwy’n hynod o falch o’r gwytnwch y mae unigolion a sefydliadau wedi ei ddangos dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf o ran y ffordd y maent wedi ymateb i’r newidiadau mawr a welwyd yn sgil pwysau ariannol a’r pandemig iechyd. Mae cydweithwyr ym myd y celfyddydau wedi defnyddio eu creadigrwydd i addasu, i gynorthwyo pobl a chymunedau Cymru, ac i fod yno i’w gilydd, ac maen nhw’n parhau i wneud hynny.

“Ond mae’r pandemig wedi gosod ffocws tynn ar herio ffactorau cymdeithasol ac anghydraddoldeb hefyd. Mae Covid-19 wedi taro’r bobl hynny sy’n dioddef oherwydd tlodi ac anfantais economaidd yn galetach na neb. Mae ymdrechion Mae Bywydau Du O Bwys a’r mudiad i roi llais i ymarferwyr creadigol a chynulleidfaoedd B/byddar, niwroamrywiol ac anabl trwy’r ymgyrch #WeShallNotBeRemoved, wedi gosod sialensiau clir a darbwyllol pellach i’n sbarduno ni i ailfeddwl a dechrau o’r newydd.

“Mae’r Adolygiad Buddsoddi’n gyfle i Gyngor Celfyddydau Cymru a sector y celfyddydau wneud hynny’n union. Mae hi’n bryd i ni ein herio ein hunain ac eraill i feddwl am atebion go iawn i fynd i’r afael â rhai o’r anghydraddoldebau o ran cyrchu’r celfyddydau yn ein cymdeithas. Gallwn lunio cynlluniau tymor hir i greu sector celfyddydau sy’n eang ei chwmpas, yn wydn ac yn llawn bywyd, a rhaid i ni wneud hynny. Mae hi’n gyfle i ddangos y gallwn alluogi cynifer o bobl â phosibl, o bob math o gymunedau, i brofi, i greu ac i fwynhau’r celfyddydau yng Nghymru.”

Mae’r Adolygiad Buddsoddi’n dechrau â chyfnod ymgynghori, ac mae Cyngor Celfyddydau Cymru’n awyddus i gasglu cynifer o safbwyntiau â phosibl ar y cynigon newydd. Rhwng 18 Gorffennaf a 10 Hydref 2022, cynhelir wyth sesiwn ymgynghori trwy Zoom, a bydd yna gyfleoedd hefyd i ymateb i arolwg ar lein a thrwy e-bost.

Mae mwy o wybodaeth am yr Adolygiad Buddsoddi yn cynnwys y dogfennau ymgynghori ar gael yma: https://arts.wales/cy/adolygiad-buddsoddi 

I drefnu lle yn y sesiynau ymgynghori, dewiswch ddyddiad isod. Bydd pob sesiwn yn dilyn yr un fformat, ac fe’u cynhelir trwy Zoom. Ni chaiff unrhyw wybodaeth newydd ei rhannu yn y sesiynau hyn nad yw ar gael i’r cyhoedd. Un person y sefydliad yn unig gaiff fynychu’r sesiynau.

Sesiwn 1: Dydd Llun 8 Awst 2022 am 13:00 i 14:30

Sesiwn 2: Dydd Mawrth 9 Awst 2022 am 17:30 i 19:00

Sesiwn 3: Dydd Mawrth, 6 Medi 2022 am 13:00 i 14:30

Sesiwn 4: Dydd Iau, 8 Medi 2022 am 09:00 i 10:30

Sesiwn 5: Dydd Llun, 12 Medi 2022 am 18:00 i 19:30

Sesiwn 6: Dydd Gwener, 16 Medi 2022 am 13:00 i 14:30

Sesiwn 7: Dydd Mercher, 21 Medi 2022 am 09:00 i 10:30

Sesiwn 8: Dydd Mercher, 21 Medi 2022 am 13:00 i 14:30

 

Yr Amserlen Arfaethedig:

Yr Ymgynghoriad: 18 Gorffennaf - 10 Hydref 2022
Cyhoeddi’r Dogfennau Terfynol: 21 Tachwedd 2022
Ceisiadau’n Agor: Ionawr 2023
Ceisiadau’n Cau: 31 Mawrth 2023
Cyhoeddi’r sefydliadau y cynigir eu hariannu:  Mehefin 2023
Proses Apelio: Gorffennaf-Medi 2023
Cyhoeddi’r sefydliadau a ariennir yn derfynol:   Medi 2023
Dechrau’r trefniadau ariannu newydd: 1 Ebrill 2024