Ysgol Gynradd Gymraeg ger Aberhonddu yw Ysgol y Bannau . Mae’r ysgol yn elwa o ystod o fannau awyr agored i gefnogi dysgu creadigol, gan gynnwys ardal goediog, cylch helyg, a phopty pitsa clai. Fel rhan o’i 25ain penblwydd, mae’r ysgol yn awyddus i recriwtio Ymarferydd Creadigol iaith-Gymraeg i helpu i ddatblygu ei hadnodd awyr agored diweddaraf: 'Llwyfan Llafar' newydd sbon.
Gellid defnyddio’r llwyfan aml-bwrpasol hwn ar gyfer drama, cerddoriaeth fyw, neu fel podiwm darlledu, ac yn ogystal â chyfrannu at y dathliadau pen-blwydd, mae’r llwyfan yn adlewyrchu Cynllun Datblygu’r ysgol i feithrin sgiliau llafaredd Cymraeg. Cwestiwn yr ysgol i ddarpar Ymarferwyr Creadigol yw:
A allech chi helpu i ddatblygu ein ‘Llwyfan Llafar’ newydd fel rhan o’n dathliadau pen-blwydd? A allech chi ein helpu i lunio prosiect wedi’i ysbrydoli gan y llwyfan i feithrin sgiliau llafaredd ymhlith dysgwyr Blwyddyn 2 a 3 tra hefyd yn meithrin gallu dysgwyr i gydweithio’n greadigol?
Cynigir ffi o £300 y dydd am hyd at 15 diwrnod yn cychwyn yn y flwyddyn newydd.
Am ragor o wybodaeth gweler yr hysbyseb swydd yn llawn, sydd yn cynnwys gwybodaeth ar sut i wneud cais.