Dyma'r rhestr fwyaf amrywiol o wobrau eto, gyda phedwar ar ddeg o artistiaid benywaidd ac un ar bymtheg o gerddorion du ac artistiaid lliw o ystod o genres yn derbyn cyllid i gynorthwyo eu cerddoriaeth a'u gwaith creadigol, gan dynnu sylw at dwf cyffrous cerddoriaeth MOBO (cerddoriaeth o darddiad du) yng Nghymru.

 Yn yr hyn a fu’n flwyddyn anodd iawn i’r sector gerddoriaeth yng nghanol cyfnod clo a phandemig byd-eang, mae’r Gronfa Lawnsio yn gweld cyfanswm o ddeugain mil o bunnoedd yn cael eu wobrwyo i gymysgedd amrywiol o gerddorion wrth iddynt gymryd y camau nesaf yn eu gyrfa. Yn ogystal, bydd Gorwelion yn cynnig hyfforddiant busnes sy'n canolbwyntio ar anghenion yr arististiaid.  

Hefyd am y tro cyntaf erioed bydd tri labeli Cymreig (High Grade Grooves (Caernarfon), Recordiau Jigcal (Caerdydd), Something Out of Nothing Records (Caerdydd), yn derbyn nawdd, wrth ir gronfa ddyfnhau y gefnogaeth i'r cwmniau sy'n meithrin talent newydd.  

Ers ei sefydlu yn 2014, noddwyd dros 200 o artistiaid, wedi eu sefydlu mewn dros 60 o drefi ledled Cymru gyfan, gan fuddsoddi £ 210,000 yn ecosystem gerddoriaeth Cymru.

 Mae llawer wedi cael cefnogaeth yn eu gwaith creadigol gyda'r gronfa gan eu galluogi i ddefnyddio amser stiwdio, ffotograffiaeth a gwaith celf a gomisiynwyd yn arbennig, hyrwyddo datganiadau, offer, cynhyrchu fideo a chostau teithiol. Ar gyfer y tri deg tri o artistiaid y dyfarnwyd cyllid iddynt eleni dyma eu cam cyntaf ar eu taith Gorwelion, a allai yn y dyfodol gynnwys hyrwyddo a setiau mewn gwyliau mawr.

 Dewiswyd y ceisiadau gan banel a oedd yn cynnwys dau ddeg pump o aelodau - gan gynnwys Cian Ciarian Super Furry Animals, y Cynhyrchwyr Gethin Pearson, Kris Jenkins, rheolwr y band Ryan Richards, y canwr Casi, a Rhys Mwyn, BBC Radio Cymru, a llawer mwy o flogwyr, perfformwyr, rheolwyr ac eraill o ddiwydiant cerdd y DU.

 Dywedodd y panelydd Tumi Williams (Afrocluster a Asiantaeth Bombard):

"Gwych gweld nifer eang, amrywiol o artistiaid yn ymgeisio am y gronfa lawnsio eleni. Mae ansawdd y gerddoriaeth, ar draws amryw o genres, yn hynod addawol ar gyfer sîn gerddoriaeth Cymru. Roedd yn anrhydedd cael bod yn rhan o broses ddethol mor drwyadl a sicrhaodd gydraddoldeb, amrywiaeth a chefnogaeth tuag at artistiaid mwyaf haeddiannol Cymru."

Dywedodd y gantores o’r band roc Mawpit:

“Rydyn ni mor falch o gael ein dewis ar gyfer y cyllid! Rydyn ni wedi bod yn cynllunio ar recordio EP ers ychydig fisoedd bellach a diolch i Gorwelion bydd hyn yn bosibl. Bellach gallwn fforddio recordio ein cerddoriaeth mewn stiwdio a thalu am beirianwyr / cynhyrchwyr. Rydyn ni wedi cael dechrau gwych yn 2020 ac wedi ennill llawer o gefnogaeth ers rhyddhau ein sengl gyntaf felly rydyn ni'n gyffrous iawn i gadw'r momentwm hwnnw i fynd gyda cherddoriaeth newydd. ”

Bydd Gorwelion yn cyhoeddi’r artistiaid a noddwyd gyda gŵyl rithiol aml-blatfform wythnos o hyd yn tynnu sylw at y talent newydd, o sesiynau cartref, i drafodaethau arlein. Byddwn yn cwrdd â'r artistiaid yn ystod yr wythnos o Ragfyr 7, gan ddiweddu ar Ragfyr 11. Gallwch ddilyn yr holl weithgaredd @horizonscymru ar Facebook, Twitter, ac Instagram.

I gael mwy o wybodaeth am y Gronfa Lawnsio a sut i wneud cais yn y dyfodol yn ogystal â'r fenter Gorwelion ehangach, ewch i'r bbc.co.uk/horizons

Launchpad awardees in full: 
 
Aleighcia Scot
Eadyth
Faith
Foxxglove
Hako     
Hemes  
High Grade Grooves     
HVNTER     
Ifan Pritchard     
K(E)NZ     
Kingkhan  
Leila Mckenzie     
Los Blancos     
Mace the Great
Madi     
Magugu
Malan Jones   
Mass Accord  
Mawpit     
Minas     
Monique B     
Phoenix Rise 
Razkid     
Recordiau Jigcal     
Rona Mac     
Something Out of Nothing Records     
Sonny Double 1     
Swannick     
Sywel Nyw   
SZWE     
Thallo     
The Honest Poet     
Traxx