Heddiw, mae Elis James, a aned yn Sir Benfro ac a fagwyd yng Nghaerfyrddin, yn lansio cannoedd o gynigion am ddim i ddweud diolch yn fawr i bobl sy’n prynu tocynnau’r Loteri Genedlaethol ac yn rhoi’r cyfle iddynt weld sut mae eu harian wedi trawsnewid treftadaeth y DU dros y 25 mlynedd diwethaf.

I lansio #DiolchIChi am 25 Mlynedd, ymwelodd Elis James â Chastell Caerdydd, un o fwy na 600 o leoedd a ariennir gan y Loteri yn y DU sy’n cynnig naill ai fynediad am ddim neu gynigion arbennig unigryw eraill i bobl sy’n ymweld gyda thocyn y Loteri Genedlaethol o’r 23 Tachwedd tan 1 Rhagfyr.

Gwyliwch y fideo llawn yma, lle mae’r comedïwr, yn ei arddull ddihafal ei hunan, yn rhoi golwg unigryw ar Gastell Caerdydd sy’n 900 mlwydd oed – fe allech dybio ei fod yn meddwl mai ef sy’n ei berchen!

Cofeb Restredig Gradd I yw Castell Caerdydd, a leolir yng nghanol hanesyddol Caerdydd ac erbyn hyn, mae’n un o brif gyrchfannau ymwelwyr Cymru. Yn 1998, gwobrwywyd mwy na £6.7 miliwn o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i’r Castell ar gyfer prosiect adnewyddu helaeth. Nid yn unig y diogelwyd ochrau allanol a mewnol yr amrywiol adeiladau ar y safle – gan gynnwys eicon pensaernïol mwyaf addurniadol Cymru, sef Tŵr Cloc Caerdydd – ond arweiniodd at greu canolfan ddehongli hefyd sy’n sicrhau fod cynnydd sefydlog yn nifer yr ymwelwyr y gellir eu croesawu a’u rheoli.

Dywedodd Elis James, y Comedïwr, a aned yn Hwlffordd, Sir Benfro ac a fagwyd yn Sir Gaerfyrddin: “Roedd yn llawer o hwyl i archwilio Castell Caerdydd, sydd wedi’i adnewyddu diolch i arian y Loteri Genedlaethol. Mae’n drueni mawr na roddwyd allweddi’r castell i mi, ond roedd yn hwyl esgus mai fi oedd yn ei berchen. Rwyf yn hapus iawn i fod yn cefnogi’r prosiect hwn a’r £10 biliwn mewn arian sydd wedi’i gyflwyno gan y Loteri Genedlaethol tuag at gannoedd o fannau hanesyddol a gwerthfawr a drysorir led led y DU.”

Mae Elis James yn ymuno â thri wyneb adnabyddus arall, sydd oll yn ymddangos fel eu bod yn credu eu bod yn byw mewn mannau hanesyddol a gwerthfawr a drysorir led led y DU: Jamie-Lee O’Donnell o’r Derry Girls yn SS Nomadic yn Belfast, Big Narstie, y rapiwr yn Kenwood House ac Anton Danyluk, oddi ar y rhaglen Love Island yn Abbotsford, Yr Alban gydag ymddangosiad arbennig gan ei fam.

 Mae’r teithiau yn arddangos llond llaw yn unig o filoedd o fannau hanesyddol a gwerthfawr a drysorir sydd wedi’u hariannu gan y Loteri Genedlaethol dros y 25 mlynedd diwethaf, a oedd gyda’i gilydd wedi arwain at adfywiad yn nhreftadaeth y DU.

Dywedodd Ros Kerslake, Prif Weithredwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol:

“Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae arian oddi wrth y Loteri Genedlaethol, yn syml ddigon, wedi gwneud y DU yn lle gwell i fyw ynddo. Ers 1994, mae dros £8 biliwn wedi cael ei wobrwyo i dros 44,000 o brosiectau treftadaeth (trwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol). Mae ein treftadaeth wedi cael ei thrawsnewid yn llwyr. Dyma ein ffordd ni o ddweud diolch yn fawr i chi am eich holl gefnogaeth.” 

Mae miloedd o’n safleoedd mwyaf prydferth, eiconig a phwysig yn hanesyddol wedi cael eu hagor i’r cyhoedd ac wedi cael bywyd newydd, o gestyll ac amgueddfeydd; tai hanesyddol i gerddi a dyfrffyrdd; o reilffyrdd stêm a chamlesi i longau a lleoedd hanesyddol sy’n nodi ein cyflawniadau a champau diwydiannol a gwyddonol mwyaf.

O ganlyniad i’r arian hwn:

  • Mae amgueddfeydd ac orielau newydd sbon wedi cael eu hagor gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Y Glannau Abertawe (gwobrwywyd £11.1 miliwn yn 2001), Big Pit: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru (gwobrwywyd £5.2 miliwn yn 2000) ac mae tua 900 pellach wedi cael eu hadnewyddu a’u moderneiddio.
  • Mae dros 400 o adeiladau wedi cael eu tynnu oddi ar gofrestrau cenedlaethol treftadaeth mewn perygl
  • Mae mwy na 120 o longau a chychod wedi cael eu hachub, eu diogelu, eu hadnewyddu a’u hagor i’r cyhoedd gan gynnwys y Mary Rose, HMS Caroline, y Daniel Adamson a’r SS Great Britain.
  • Mae safleoedd hanesyddol nodedig wedi cael eu hadfer, eu gwella neu eu hagor i’r cyhoedd gan gynnwys Côr y Cewri, Jodrell Bank a Thŵr Llundain.
  • Mae dros £900 miliwn wedi cael ei fuddsoddi mewn mwy na 6,000 o fannau addoli yn y DU, gan gynnwys prosiectau adnewyddu o bwys yng Nghadeirlan Tyddewi yn Sir Benfro, Eglwys Gadeiriol Efrog, Eglwys Gadeiriol Lincoln a Synagog Bevis Marks.

Mae rhai o’r atyniadau mwyaf poblogaidd i ymwelwyr yng Nghymru – o Barc Cenedlaethol Eryri yng Ngogledd Cymru hyd at Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ym Mhowys ac Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yng Nghymru wedi derbyn arian y Loteri Genedlaethol. Mae’r lleoliadau hyn yn denu miloedd o ymweliadau pob blwyddyn ac yn gyfrannwr o bwys tuag at economi Cymru.

Mae 26 o safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn y DU, gyda 22 ohonynt wedi derbyn arian y Loteri Genedlaethol. Mae dros 19,500 o adeiladau a chofebion  hanesyddol wedi cael eu hadfer, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Nid y pethau mawr yn unig sy’n derbyn arian. Mae mwy na 3,000 o bobl wedi cyflawni hyfforddiant mewn sgiliau treftadaeth o fewn y gweithle. Ac mae’r Loteri Genedlaethol wedi helpu yn agos at chwarter miliwn o wirfoddolwyr i ymgysylltu gyda threftadaeth.

I ddathlu pen-blwydd 25 mlynedd y Loteri Genedlaethol, bydd lleoliadau eiconig megis Tŷ a Gerddi Dyffryn ym Mro Morgannwg hefyd yn agor eu drysau i’r cyhoedd gyda mynediad am ddim neu gynigion arbennig eraill i unrhyw un sy’n cyrraedd gyda thocyn y Loteri Genedlaethol o’r 23 Tachwedd tan 1 Rhagfyr, fel rhan o’r dathliad Diolch i Chi am 25 Mlynedd. Mae’r cynnig hefyd yn cynnwys mynediad am ddim i 100 o Eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gyda theithiau tywys arbennig a dyddiau allan am ddim mewn ambell i le anhygoel megis Castell a Gerddi Powys gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ger Y Trallwng.

Ac nid safleoedd treftadaeth yn unig sy’n cymryd rhan. Bydd tocyn y Loteri Genedlaethol hefyd yn golygu y gallwch gael gostyngiadau unigryw a chynigion arbennig mewn atyniadau celfyddydol, chwaraeon a chymunedol a ariennir gan y Loteri Genedlaethol – yr holl leoedd sy’n gwneud y DU yn lle mor wych i fyw ynddo.

Edrychwch ar thankstoyou.org.uk i ddod o hyd i’r rhestr lawn a chwiliwch trwy’r holl gynigion a gynhelir yn eich ardal chi a’u hidlo yn ôl diddordeb penodol, gan gynnwys popeth o fynediad am ddim i Long Danfor y Llynges Brydeinig, i docynnau theatr rhatach a theithiau tywys am ddim o amgylch rhai o ardaloedd cadwraeth prydferth y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar.