Bydd NoFit State Circus yn dod â'i sioe fawreddog SABOTAGE yn ôl adref i Gaerdydd ym mis Medi ar ôl pedair blynedd o deithio Cymru, Prydain a thramor.
mMae SABOTAGE wedi teithio ledled Cymru ac Ewrop, rhwng Merthyr a Marseille a rhwng Abertawe ac Antwerp, gan gyrraedd degau o filoedd o bobl. Yn anffodus, mae'n rhaid i hyd yn oed gynhyrchiad a swynodd y beirniaid ddod i ben a gwneud lle i rywbeth newydd, felly gobeithio y gallwch ymuno â ni yng Nghaerdydd a mwynhau byd SABOTAGE am y tro olaf.
Mae SABOTAGE yn brofiad ysblennydd, cyffrous sy'n cynnwys perfformwyr tu hwnt o dalentog, awyrgampau a sgiliau syfrdanol, delweddau trawiadol ac mae band byw rhagorol reit wrth galon y sioe. Firenza Guidi yw'r cyfarwyddwr.
Mae SABOTAGE yn gwneud i chi deimlo'n rhan o rywbeth; mae'n fwy na dim ond triciau a sbloet (er bod digon o hynny!), ond mae hefyd yn rhoi'r llawenydd o rannu sioe fyw ag eraill. Mae'n rhoi rhyddid i chi i ddianc rhag y cyffredin, ac ymgolli dros eich pen a'ch clustiau ym mhrofiad unigryw'r stori, gyda cherddoriaeth fyw a delweddau hardd y syrcas yn cyfuno i greu atgof sy'n para o'r hyn sy'n bosibl.
Mae gan NoFit State, o Gaerdydd, enw da am greu sioeau arloesol ers bron 40 mlynedd. Yn ogystal â swyno a diddanu cynulleidfaoedd mae hefyd yn herio ac yn cwestiynu materion cyfoes.
Perfformir SABOTAGE yn Big Top NoFit State yn y cae nesaf at Faes Parcio Gerddi Sophia, Caerdydd o ddydd Gwener 12 tan ddydd Sul 28 Medi 2025.
Mae tocynnau ar werth nawr trwy wefan NoFit State. www.nofitstate.org/cy/shows/sabotage/