Ymunwch â Chapter i ddathlu Wythnos Ffoaduriaid rhwng 16 a 22 Mehefin ac i brofi Gŵyl Ffilmiau SAFAR rhwng 21 a 28 Mehefin.
Ar gyfer thema eleni ‘Cymuned fel Goruwchbŵer’, mae Chapter wedi rhaglennu detholiad o ffilmiau a digwyddiadau sydd â’r nod o uno pobl o wahanol gefndiroedd, gan anrhydeddu cryfder a chreadigrwydd ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn ein cymuned.
Wythnos Ffoaduriaid yw gŵyl gelfyddydau a diwylliant fwya’r byd sy'n dathlu doniau, arloesedd a phenderfyniad ffoaduriaid a phobl sy'n ceisio lloches. Bydd y rhaglen yn darparu llwyfan grymusol i unigolion sydd wedi’u dadleoli rannu eu lleisiau mewn ffordd ddilys, gan harneisio mynegiant creadigol i feithrin dealltwriaeth ac i hyrwyddo newid cymdeithasol.
Mae Gŵyl Ffilmiau SAFAR, prif lwyfan gwledydd Prydain ar gyfer sinema Arabaidd annibynnol, yn cyflwyno ei degfed ŵyl a’i phedwerydd tro yn Chapter. Mae'r detholiad o ffilmiau yn cyfleu’r amrywiaeth gyfoethog o safbwyntiau cynnil a rhagoriaeth artistig sy'n dod i'r amlwg o ranbarth De-orllewin Asia a Gogledd Affrica (SWANA). Ar adeg pan fo portreadu dilys yn ffurf hanfodol ar wrthsafiad, mae'r rhaglen yn gwahodd cynulleidfaoedd i ddod ar draws straeon sydd wedi'u gwreiddio mewn lle ond sydd hefyd yn taro tant cyfanfydol. Mae gwneuthurwyr ffilmiau yn defnyddio cof, dychymyg a her i adrodd straeon sy’n arbennig o ddynol.
Rhaglen lawn:
- Nos Wener 20 Mehefin: No One is Illegal a sesiwn holi ac ateb gyda'r cyfarwyddwr wedi'i gynnal gan Oasis Caerdydd
- Nos Wener 20 Mehefin: SAFAR: The Village Next to Paradise
- Dydd Sadwrn 21 Mehefin: SAFAR: The Encampments
- Nos Sadwrn 21 Mehefin: SAFAR: Watch out for Zouzou
- Dydd Sul 22 Mehefin Gŵyl Animeiddio Caerdydd: Straeon am Gryfder gan Blant Gaza + trafodaeth a gweithdy
- Nos Fawrth 24 Mehefin: SAFAR: Sudan Remember Us
- Nos Wener 27 Mehefin: SAFAR: A State of Passion + sesiwn holi ac ateb gyda'r cyfarwyddwr a'r cynhyrchydd
Ffilm ddogfen ddewr a grymus yw The Encampments sy’n dilyn y protestiadau cyd-sefyll â Phalesteina a ffrwydrodd ar draws campysau prifysgolion yn 2024. Gyda chyfraniadau gan athrawon, chwythwyr chwiban a myfyrwyr sy’n ymgyrchu, gan gynnwys y myfyriwr sydd wedi'i gadw yn y ddalfa Mahmoud Khalil; mae'r ffilm ddogfen yma’n mynd â ni i ganol ymateb myfyrwyr America gydag agosatrwydd anhygoel i daflu goleuni ar fudiad sy'n mynnu heddwch a thryloywder. Bydd dangosiadau’n digwydd rhwng 21 a 26 Mehefin.
Bydd y sioe gerdd Eifftaidd boblogaidd o'r saithdegau, Watch Out for Zou Zou, sydd newydd gael ei hadfer, yn cael ei dangos am 5pm ar 22 Mehefin fel rhan o SAFAR. Mae'r adferiad gwych yma o glasur gerddorol gyda'r chwedlonol Soad Hosni, oedd yn cael ei nabod fel 'Marilyn Monroe Sinema Arabaidd', yn llawn hiwmor, rhamant a thensiwn diwylliannol.
"Mae Wythnos Ffoaduriaid wedi bod yn bwysig i'n rhaglenni ers blynyddoedd maith wrth i ni ddathlu Caerdydd fel Dinas Noddfa a dangos ffilmiau sy'n cefnogi ffoaduriaid Cymru i gysylltu â'i gilydd ac i rannu eu diwylliant gyda ni. Gan gydweithio â Gŵyl Ffilmiau SAFAR unwaith eto eleni, rydyn ni’n archwilio ffilmiau am Swdan, Palesteina a Somalia. Rydyn ni’n cydweithio gyda Gŵyl Animeiddio Caerdydd ar Straeon am Gryfder gan Blant Gaza, gyda Chanolfan Ffoaduriaid Oasis ar sesiwn holi ac ateb ar gyfer No One Is Illegal a gyda Atal y Rhyfel Caerdydd ar drafodaeth banel ar gyfer The Encampments.”
—Claire Vaughan, Rheolwr Rhaglen y Sinema yn Chapter: “Mae Wythnos Ffoaduriaid yn amser hollbwysig i ddathlu cyfraniadau ceiswyr lloches ac i godi ymwybyddiaeth am yr heriau maen nhw'n eu hwynebu. Thema eleni yw ‘cymuned fel goruwchbŵer’ a dyna pam rydyn ni mor falch o gael gweithio mewn partneriaeth â Chapter i ddod â chymunedau ynghyd am wythnos o ddigwyddiadau bendigedig.”
—Susie Ventris-Field, Prif Weithredwr Oasis
Mae Chapter yn gwahodd unigolion a grwpiau cymunedol i gymryd rhan, i ddysgu ac i fyfyrio, gan gydsefyll â phobl sydd wedi'u dadleoli ym mhobman.
I gael rhagor o fanylion am y rhaglen gyfan, ewch i Wythnos Ffoaduriaid 2025.