Galw ar holl drefnwyr gwyliau Cymru

Mae’r AIF yn dod i Gaerdydd ym mis Hydref ar gyfer cynhadledd undydd arbennig.

Bydd Uwchgynhadledd Gwyliau Cymru yn llawn o sgyrsiau byrion, gweithdai gweithrediadau a marchnata, a chyfleoedd i rwydweithio.

Cyfle i wella’ch gwybodaeth am y pynciau pwysicaf yn niwydiant y sector gwyliau. Cyllid, gweithwyr llawrydd, cynhyrchu incwm, cynaliadwyedd ... a mwy.

Hefyd, rydym yn gwybod mai sgwrsio â phobl eraill sydd yn yr un cwch â nhw yw'r hyn sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n haelodau. Felly rydym wedi cynllunio lle i gysylltu â chyd-drefnwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant.

Pryd? Dydd Iau, 16 Hydref
Ble? Cornerstone, Caerdydd
Faint o’r gloch? 10am–6pm

Sut i ymuno â ni? Cofrestrwch eich diddordeb yma.

Gall lleoedd fod yn gyfyngedig. Os bydd gormod yn archebu, bydd lleoedd yn cael eu dyrannu trwy bleidlais.

Bu’r digwyddiad hwn yn bosibl trwy gyllid gan Gymru Greadigol.