Paratowch ar gyfer noson bwerus gyda Willis Chimano, wrth iddo gymryd y llwyfan ar ei ben ei hun, arddangos ei ddawn a profi mai Coron Drom yw'r Goron!

Rydych chi’n cael eich gwahodd i noson o gerddoriaeth, stori, a miwisg yr enaid gyda Willis Austin Chimano—llais Sauti Sol a nawr, artist solo yn ei hawl ei hun.

Fel rhan o'r Tymor DU/Kenya, sydd yn cael ei gefnogi gan y Cyngor Prydeinig a’i gyflwyno gan Ganolfan Affrica a Watch Africa, rydym yn cydweithio â Clwb Orange ar gyfer parti gwrando unigryw lle rydym yn dathlu crefft Kenya, Chimano; ac yn dod â'i waith pwerus, Heavy Is the Crown, yn fyw yn Nghaerdydd am un noson yn unig.

Mae Chimano yn perfformio ei sioe unigol o'r enw Heavy Is The Crown (What its like to be a gay man in Africa). Mae'n sioe siarad sy'n cynnwys caneuon o'i albwm cyntaf Heavy Is The Crown ac hefyd amdano ef yn camu mewn i'w bŵer a chymryd meddiant o'i stori ar ôl i Sauti Sol wahanu.

Dechreuodd Chimano y sioe yn Awstralia fis Mawrth eleni, ac mae'n mynd a’r sioe i Ffrainc a Llundain, cyn dod i Gaerdydd. Mae'n gweithio ar brosiectau sy'n ceisio newid naratifau hen ffasiwn am gymunedau LGBTQI ar draws y cyfandir.

Gyda gwesteion arbennig:

  • Wafa Arman –lleisiau syfrdanol a geirfa sy'n symud yr enaid
  • DVJ Duez –creu awyrgylch gyda synau sy’n cyfuno genres

Pa un a ydych chi wedi dilyn Chimano ers dyddiau cynnar Sauti Sol, neu’n ymuno â'i daith unigol, mae hwn yn le ar gyfer cysylltiad, dathlu, a dilysrwydd.

Beth i’w ddisgwyl:

  • Cyfle unigryw i wrando ar yr albwm Heavy Is the Crown
  • Perfformiad unigol grymus gan Chimano
  • Setiau byw gan Wafa Arman a DVJ Duez
  • Lle croesawgar wedi'i lenwi gyda teimladau da, gwaith celf bold, a straeon gwir

Does dim llawer o docynnau, felly tynnwch eich pobl ynghyd a ymunwch â ni yn Amgueddfa Caerdydd am noson i'w chofio.

'Let Chimano crown you—with truth, pride, and sound'

Rydym yn rhoi’r cyfle hefyd i ENNILL 2 DOCYN ar gyfer y noson hon ac i’r diwrnod cwrdd a chyfarch eithriadol iawn y diwrnod cyn hynny. Rhannwch yn eich straeon, dilynwch @clwborange, @watchafricafilmfestival ac @willis.chimano a chymrwch yr amser i ddweud pwy fyddech chi'n hoffi mynd gyda chi. 

Bydd y person buddugol yn cael ei ddewis ar 28 Gorffennaf!