Rydym yn ceisio comisiynu unigolyn neu sefydliad i greu 13 tlws wedi’u dylunio’n arbennig ar gyfer Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru sydd ar ddod ac sydd i’w cynnal ar 27 Mawrth 2025 yn Venue Cymru, Llandudno.

Nod y digwyddiad hwn yw arddangos y gorau o fewn y sector twristiaeth, annog arloesedd, ac, yn bwysicaf oll, dathlu ac ehangu amlygrwydd diwydiant sy'n chwarae rhan hanfodol yn economi Cymru.

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am y cyfle hwn, cysylltwch â ni trwy e-bost gwybodaeth@gwobrautwristiaethcymru.co.uk i ofyn am wybodaeth ychwanegol.