- Wedi’i ysgrifennu gan Katie Elin-Salt a’i chyfarwyddo gan Alice Eklund, mae’r sioe gerdd newydd sbon hon yn gyflwyniad perffaith i theatr i blant tair i chwech mlwydd oed
- Perfformir Yr Hugan Fach Goch yn Theatr y Sherman (25 Tach 2024-4 Ion 2025) wedi taith i bum lleoliad yn ne Cymru ym mis Tachwedd
- Caiff fersiwn Saesneg o’r sioe, Little Red Riding Hood, ei pherfformio ochr yn ochr â'r Saesneg
- Yn y cyfamser, mae A Christmas Carol, sioe Nadoligaidd hynod lwyddiannus 2021 y cwmni i bawb saith mlwydd oedd neu’n hŷn, yn dychwelyd i Theatr y Sherman (22 Tach 2024 - 4 Ion 2025)
Mi fydd cynhyrchiad Nadolig Theatr y Sherman ar gyfer plant iau, Yr Hugan Fach Goch, yn teithio lleoliadau yn ne Cymru fis Tachwedd, cyn dychwelyd am rediad chwe wythnos yn adeilad y theatr yng Nghaerdydd.
Yn llawn caneuon a chwerthin, y fersiwn newydd hon o'r stori glasurol yw'r stori y mae pawb yn ei charu, ond gyda thro blasus a hyfryd ychwanegol. Caiff ei pherfformio mewn amgylchedd anffurfiol gyda pherfformiadau ar wahân; Yr Hugan Fach Goch yn Gymraeg - cyfieithiad Lily Beau o’r fersiwn Saesneg, sef Little Red Riding Hood.
Nadolig! Mae'r cyfan am yr anrhegion, yndyw e? Eu rhoi a'u derbyn (ond yn bennaf eu derbyn). O leiaf dyna mae Coch yn ei feddwl... yn enwedig pan ddaw clogyn coch newydd hynod o cŵl yn ei hosan! Ond pan aiff Coch ar goll yn y goedwig ar y ffordd i dŷ ei nain, mae’n cyfarfod â blaidd llwglyd sy’n dangos iddi efallai bod mwy i’r Nadolig na jyst chwarae gyda’i theganau newydd.
Dywedodd yr awdur Katie Elin-Salt, a ysgrifennodd Hansel a Gretel/Hansel and Gretel, sioe Nadolig Stiwdio Theatr y Sherman i blant tair i chwe mlwydd oed llynedd: “Rwyf wrth fy modd i gael fy ngwahodd yn ôl i ysgrifennu stori Nadoligaidd arall ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc disglair Theatr y Sherman. Mae wedi bod yn bleser ei hysgrifennu, a dwi’n gobeithio bod y stori hon yn helpu plant i archwilio’r holl bethau a all wneud i bob Nadolig deimlo mor arbennig - cariad, chwerthin, llawenydd, cyffro ac amser o ansawdd gyda’n pobl orau.”
Caiff Yr Hugan Fach Goch ei berfformio gan gast o ddau actor-gerddor; Grace O'Brien a berfformiodd yn The Snow Queen Theatr y Sherman yn 2019, a Mari Fflur, y bydd cynulleidfaoedd yn ei chofio yn chwarae llu o rolau yn Hansel a Gretel/Hansel and Gretel Theatr y Sherman y llynedd.
Yn ymuno ag Alice Eklund yn y tîm creadigol mae’r Cynllunydd Set a Gwisgoedd Llew Morgan, y Cyfansoddwr a Chyfarwyddwr Cerddoriaeth James Williams, y Cynllunydd Goleuo Ceri James, y Dylunydd Sain Josh Bowles ac Elin Phillips yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol, rhan o fenter Cyfarwyddwr Cymraeg dan Hyfforddiant Theatr y Sherman. Cefnogir Hansel a Gretel/Hansel and Gretel gan Hansel a Gretel/Hansel and Gretel gan Theatr Genedlaethol Cymru.
Ers dros 50 mlynedd, mae cynyrchiadau Nadolig Theatr y Sherman wedi cyflwyno cenedlaethau o blant o bob rhan o Gymru i hud y theatr, gyda dehongliad difyr o straeon cyfarwydd. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae sioeau Nadolig Stiwdio’r cwmni yn draddodiadol wedi cynnig tro llawen, cyfoes ar stori dylwyth teg boblogaidd, ochr yn ochr â sioe ar raddfa fwy yn y Prif Dŷ i blant hŷn.
Eleni, yn ogystal â'r cynhyrchiad teithiol o Yr Hugan Fach Goch/Little Red Riding Hood, yn dilyn galw gan gynulleidfaoedd mae Theatr y Sherman yn dod â’i sioe Nadolig lwyddiannus 2021 i blant hŷn, A Christmas Carol, yn ôl i'r Brif Theatr (22 Tach 2024 - 4 Ion 2025).