Mae'r cwmni theatr plant, sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd wedi penodi Jonny Cotsen yn Gadeirydd bwrdd ymddiriedolwyr Theatr Iolo. Ymunodd Jonny â'r bwrdd yn 2020 ac mae bellach yn camu i rôl y Cadeirydd, yn dilyn ymadawiad Evan Williams. Mae Jonny yn eiriolwr dros well mynediad yn y Celfyddydau. Fe ysgrifennodd Becyn Cymorth Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer canolfannau a chwmnïau theatr, sy'n darparu canllawiau ar sut i wella mynediad i gynulleidfaoedd Byddar yng Nghymru. Mae e hefyd yn cynnal gweithdai drama cynhwysol ac mae'n hyfforddwr Cydraddoldeb Byddar i bobl ag anableddau a heb anableddau.

"Mae penodiad Jonny yn nodi pennod newydd gyffrous i Theatr Iolo wrth i ni agosáu at ein deugain flwyddyn yn 2027. Mae Jonny yn dod â chyfoeth o brofiad i rôl y Cadeirydd, a bydd ei ymrwymiad i hygyrchedd i gynulleidfaoedd, ac eiriolaeth ar gyfer artistiaid byddar ac anabl, yn sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â’r her o greu theatr fwy beiddgar, gwir a hygyrch i gynulleidfaoedd ifanc.”

Lee Lyford, Cyfarwyddwr Artistig a Phrif Weithredwr Theatr Iolo

"Ymunais â Theatr Iolo oherwydd fy mod yn credu yng ngrym y theatr i sbarduno dychymyg, grymuso pobl ifanc â meddyliau chwilfrydig, a chynnig lle i BOB llais gael ei glywed – yn enwedig y rhai sy'n cael eu gadael allan yn rhy aml. Mae'n fraint cefnogi cwmni sy'n hyrwyddo creadigrwydd, cynhwysiant, a'r genhedlaeth nesaf."

Jonny Cotsen, Cadeirydd bwrdd ymddiriedolwyr Theatr Iolo

Hefyd yn ymuno â bwrdd Ymddiriedolwyr Theatr Iolo yn 2025 mae Tom Naylor (Rheolwr Cynhyrchu llawrydd ac arbenigwr mewn arferion theatr cynaliadwy), Becky Welton (cyfreithiwr yn y tîm cyflogaeth a mewnfudo yn HCR Law), David Baxter (rheolwr prosiect celfyddydau, cynhyrchydd ac ymgynghorydd llawrydd), Janet Hayward (Pennaeth Ysgol Gynradd Tregatwg), a Matthew Fisher (Rheolwr Cyllid Techniquest.) Gallwch ddarllen mwy am holl aelodau bwrdd Theatr Iolo drwy ymweld â'u gwefan.

Ochr yn ochr â'r penodiadau bwrdd newydd, mae Theatr Iolo hefyd wedi penodi Glesni Price-Jones yn Gynhyrchydd i'r cwmni. Cyn hyn, bu Glesni yn Gynhyrchydd ar ran National Theatre Wales ac mae wedi gweithio i gwmnïau sy’n cynnwys August 012 a Dirty Protest. Ar hyn o bryd mae hi'n Gynhyrchydd llawrydd, yn gweithio ar gynyrchiadau sy’n cynnwys Martha, sioe newydd Taking Flight, ac mi fydd yn parhau â hyn ochr yn ochr â'i rôl yn Theatr Iolo.

"Fe weithiais i Theatr Iolo am y tro cyntaf fel Rheolwr Llwyfan yn Neuadd Les Ystradgynlais yn 2017, a nawr rwy'n falch iawn, 8 mlynedd yn ddiweddarach o fod yn dychwelyd i weithio gyda'r cwmni fel Cynhyrchydd. Fel plentyn, roeddwn i wrth fy modd yn mynd i'r theatr a chymryd rhan mewn prosiectau artistig, a nawr bod gen i blant fy hun, rwy'n gweld pwysigrwydd ehangu gorwelion pobl ifanc trwy'r celfyddydau hyd yn oed yn fwy. Rwy'n gyffrous i fod yn rhan o'r tîm uchelgeisiol hwn sydd â syniadau gwych, nid yn unig ar gyfer sioeau newydd, ond ar gyfer cydweithrediadau a ffyrdd o weithio gyda'r sector a'n pobl ifanc."

Glesni Price-Jones

Am ragor o wybodaeth neu i siarad gydag unrhyw aelod o staff neu fwrdd Theatr Iolo, ewch i theatriolo.com neu e-bostiwch hello@theatriolo.com