Cyfweliadau i ddigwydd yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 28 Gorffennaf

Mae WNO yn rhannu grym opera a cherddoriaeth glasurol fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn lle creadigol ac ysbrydoledig i weithio ynddo ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu ein blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn chwilio am Dechnegydd Llwyfan Deithio i ymuno â’r adran Dechnegol. Mae’r swydd yn cynnwys darparu elfennau llwyfannu o safon uchel ar gyfer cynyrchiadau, digwyddiadau, a phrosiectau, mewn ffordd effeithiol sy’n meithrin amgylchedd gwaith diogel, iach, a chynaliadwy. Fel Technegydd Llwyfan Deithio, byddwch yn bennaf yn canolbwyntio ar gyflawni tasgau ymarferol ar gyfer yr Adran Lwyfan, megis ymdrin â golygfeydd a chynnal a chadw, hedfan, rigio a llwytho cerbydau yn ddiogel.

Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonoch?

Fel Technegydd Llwyfan Deithio, bydd angen i chi ddefnyddio eich sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ymarferol o grefft llwyfan er mwyn sicrhau bod ein cynyrchiadau yn cyrraedd y safon uchaf bosibl, ac yn adlewyrchu gweledigaeth artistig a chreadigol y tîm cynhyrchu, a hynny yng Nghaerdydd ac wrth deithio.

Byddwch yn gyfrifol am ddarparu arbenigedd technegol ymarferol mewn meysydd megis gwaith coed ar gyfer cynhyrchiad, hedfan theatraidd, llwytho cerbyd yn ddiogel, a chodi a chario trwm. Yn ychwanegol, bydd y gallu i weithio mewn tîm yn hanfodol wrth i chi gefnogi’r gwaith o oruchwylio Cynorthwywyr Technegol, Prentisiaid, Technegwyr Lleoliad, a Chriw Asiantaeth ar y safle.

Byddwch yn mynychu Cyfarfodydd yr Adran Lwyfan a Thechnegol yn ôl yr angen, ac yn helpu i ddirprwyo tasgau o fewn yr adran. Yn ogystal, byddwch yn cyfrannu at weithrediad llwyddiannus agweddau gweinyddol ac ariannol.

Beth fydd angen i chi ei gael?

Mae’r cymwysterau dymunol ar gyfer y swydd yn cynnwys profiad ymarferol mewn codi a chario trwm, a thechnegau gweithio sylfaenol ar uchder. Yn ychwanegol, dylai’r ymgeiswyr feddu ar sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ymarferol yn o leiaf un o'r meysydd canlynol: gwaith coed ar gyfer cynhyrchiad, hedfan a rigio theatraidd, llwytho cerbydau yn ddiogel, neu grefft llwyfan gyffredinol.

Mae gofynion allweddol eraill yn cynnwys y gallu i ddilyn ciwiau yn ystod perfformiadau ac ymarferion, cadw at ddatganiadau dull yn ymwneud â chynlluniau llwyfan a llawr, a meddu ar wybodaeth gyfoes ynghylch yr arferion Iechyd a Diogelwch sy’n berthnasol ar gyfer y swydd. Mae’r swydd yn gofyn agwedd hyblyg, a’r gallu i deithio’n annibynnol yn y DU a dramor.

Beth allwn ni ei gynnig i chi?

CyflogCystadleuol

£609.81 yr wythnos.

Gwyliau Blynyddol

Mae gan gydweithwyr hawl i 25 diwrnod o wyliau blynyddol (pro-rata ar gyfer oriau rhan amser) bob blwyddyn wyliau lawn sy’n rhedeg o 1 Medi i 31 Awst. Mae gwyliau banc a chyhoeddus yn ychwanegol at hyn. Ar ôl 5 mlynedd, bydd eich gwyliau yn cynyddu i 28 diwrnod.

Pensiwn

Mae'r holl weithwyr wedi'u cofrestru'n awtomatig i Gynllun Pensiwn Rhanddeiliaid WNO (y "Cynllun") neu unrhyw gynllun pensiwn cofrestredig arall a sefydlir gan y Cwmni fel Cynllun Pensiwn Gweithle Cymwys, tri mis ar ôl ymuno â'r Cwmni, yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwysedd penodol.

Aelodaeth Campfa

Mae'r holl weithwyr yn gymwys am y Cerdyn Corfforaethol Gweithredol a weithredir gan Gyngor Dinas Caerdydd sydd ar gael ar gyfradd is o 25% ac sy'n cynnwys cyfleusterau hamdden amrywiol ledled Caerdydd.

Gostyngiadau

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig gostyngiadau i breswylwyr mewn allfeydd dethol yn yr adeilad a bwytai dethol o amgylch Bae Caerdydd wrth gyflwyno cardiau adnabod. Cyfradd ostyngol gyda gwestai Future Inn yng Nghaerdydd.

Gostyngiad Parcio Staff gyda Q Park

Mae gennym gyfradd gorfforaethol gyda Q Park, Stryd Pierhead (gyferbyn â CMC).

Rhaglen Cymorth i Weithwyr

Rydym yn cynnig gwasanaeth cwnsela a chynghori am ddim a chyfrinachol sydd ar gael i'n holl weithwyr, gweithwyr llawrydd a chontractwyr.

Gwersi Cymraeg

Rydym yn cefnogi staff sydd am ddysgu neu wella eu sgiliau Cymraeg, ac rydym yn cynnig gwersi Cymraeg sylfaenol a gwersi gwella dewisol yn rhad ac am ddim.

Os ydych yn chwilio am yr her nesaf, gwnewch gais heddiw. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg. Os dymunwch wneud cais yn Gymraeg, ni chaiff ei drin yn llai ffafriol na phe byddech yn gwneud cais yn Saesneg.

Os hoffech sgwrs anffurfiol am y swydd gyda Grant Barden, Rheolwr Gweithrediadau Technegol, cysylltwch ag: carys.davies@wno.org.uk
 

Dyddiad cau: 21/07/2025