Faint o bobl sy’n cymryd yr awenau o ran mynychu digwyddiadau diwylliannol a threfnu ar gyfer ffrindiau, o’i gymharu â’r rheini sy’n tueddu i fynd pan fydd rhywun arall yn gofyn iddynt?
Gan ddefnyddio data ar y 'Dechreuwyr' a'r 'Ymatebwyr' o'r Monitor Cyfranogiad Diwylliannol, byddwn yn edrych ar y ddau gategori hyn o bobl, gan adeiladu ar ymchwil gan academyddion yn yr Unol Daleithiau (Wolf Brown). Pa fathau o bobl sy’n tueddu i berthyn i’r categorïau gwahanol hyn o bobl sy’n mynychu’r celfyddydau, ac yn hollbwysig beth mae hyn yn ei olygu i’ch strategaeth farchnata chi ac i’ch ymgysylltiad â’ch cynulleidfa?
Dyddiad: Dydd Mercher 15 Tachwedd 2:15 PM – 3:00 PM
Archebwch eich lle: Archebwch eich lle am ddim – TEA Break | Dechreuwyr ac Ymatebwyr – Zoom, Dydd Mercher 15 Tachwedd 2023 2:15 PM - 3:00 PM (tickettailor.com)
Gwybodaeth am Sesiynau TEA:
Mae’r Sesiynau TEA (Trafod Tystiolaeth a Chynulleidfaoedd) yn rhoi cyflwyniad rheolaidd i’r ymchwil, prosiectau a gwybodaeth diweddaraf am y sector gan The Audience Agency - dewch i fwynhau paned a sgwrs. Drwy’r sesiynau briffio misol byr hyn, mae ein tîm yn rhannu gwybodaeth gyfredol am y sector diwylliannol.
Bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar bwnc allweddol, wedi’i bennu gan y dadansoddiad diddorol a’r ymchwil sy’n digwydd ar y pryd o bob rhan o’n tîm. Mae hon yn ffordd hawdd o gadw llygad ar ganfyddiadau data diweddaraf y gynulleidfa a thrafod eich syniadau gyda phobl o’r un anian o bob rhan o’r sector.
Pwy:
Mae'r sesiwn hon ar agor i bawb.
Gall fod o ddiddordeb arbennig i uwch arweinwyr a’r rheini sydd angen trosolwg o dueddiadau’r sector – gan gynnwys uwch farchnadwyr, rhaglenwyr, pobl sy’n codi arian – ynghyd ag unrhyw un sydd â diddordeb mewn data cynulleidfa cyfredol.
Hwyluswyr:
- Oliver Mantell, Cyfarwyddwr Tystiolaeth a Gwybodaeth
- Ella Brown, Ymchwilydd Tystiolaeth
Fformat:
Sesiynau briffio 45 munud ar-lein yw Sesiynau TEA.
Mae’r 30 munud cyntaf ym mhob sesiwn yn cynnwys sawl crynodeb byr o’r canfyddiadau, y prosiectau a’r dystiolaeth ddiweddaraf sy’n seiliedig ar ddata y mae The Audience Agency wedi bod yn gweithio arnynt. Byddwn wedyn yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau a thrafod gyda phobl eraill, yn ogystal â’n tîm ni.
Cost: Am ddim