Llawn amser, 37 awr yr wythnos

Cyfnod penodol, hyd at 31 Mawrth 2025

Gradd D: Cyflog cychwynnol o £40,561

Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru (Bae Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn). Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.

Am y rôl

Y Swyddogion Datblygu yw asiantau cyflawni lleol ein polisïau a'n strategaethau cenedlaethol ar gyfer y celfyddydau.  Nhw yw'r prif bwynt cyswllt ar gyfer unigolion a sefydliadau sydd am gael cymorth, cefnogaeth neu gyllid gennym.

Gan adrodd i Reolwr Rhaglen y Celfyddydau, Iechyd a Llesiant, bydd gan y rôl Swyddog Datblygu hon amrywiaeth o gyfrifoldebau gan gynnwys ‘pecyn’ o arbenigeddau ym maes y celfyddydau neu rai proffesiynol, cymryd rhan mewn cyfarfodydd penderfynu ar gyllid, bod yn berson cyswllt ar gyfer sefydliadau Portffolio Celfyddydau Cymru, a chefnogi maes polisi penodol (yn yr achos hwn, y gwaith Celfyddydau ac Iechyd).

Amdanoch chi

Os ydych chi'n angerddol ynghylch y celfyddydau, iechyd a llesiant, a bod gennych y gallu i reoli a gweithredu mentrau sy'n datblygu blaenoriaethau'r rhaglen, yna hwyrach taw hon yw'r rôl i chi. Bydd yn rhaid i chi rheoli a chyflawni rhaglen amrywiol o brosiectau a thasgau and gyda ffocws ar ddeilliannau a’r penderfyniad i lywio prosiectau a thasgau hyd at eu cwblhau’n ymarferol. Am ddisgrifiad manwl o'r wybodaeth, y profiad a'r nodweddion angenrheidiol, cyfeiriwch at y disgrifiad swydd.

Yr Iaith Gymraeg

Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Ar ôl cael eich penodi gallwn eich cefnogi chi i ddysgu, datblygu a gwella’ch sgiliau iaith ymhellach ac  i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.

Cynllun Hyderus o ran Anabledd

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, sy'n ymroddedig i gyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol a nodir yn y fanyleb person.

Cyfeiriwch at y ddolen isod am ragor o fanylion.

Cynllun Cyflogwr hyderus o ran anabledd - GOV.UK (www.gov.uk)

 

Sut i ymgeisio

Cyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i AD@celf.cymru. Cyflwynwch hefyd ddatganiad personol yn disgrifio’ch profiad, gwybodaeth a dealltwriaeth o'r Celfyddydau, Iechyd a Lles a pham rydych yn meddwl eich bod yn addas ar gyfer y rôl. Dylai pob dogfen fod ar ffurf Word.

Os hoffech chi gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llaid, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.

Dyddiad cau: 12:00yp (canol dydd) dydd Mercher 21 Mehefin 2023

Cyfweliadau:             Dydd Iau 6 Gorffennaf 2023 (Yn berson yn swyddfa Bae Caerdydd)

Mae ein buddion yn cynnwys oriau/gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.

Bydd Cyngor y Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen

Dogfen26.05.2023

Pecyn Swydd: Swyddog Datblygu