Llawn amser (37 awr) yr wythnos
Cytundeb Parhaol
Gradd D: Graddfa Cyflog: £46,842 - £52,641
Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru yng Nghaerdydd, Bae Colwyn neu Gaerfyrddin.
Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod braint, oriau/patrwm gweithio hyblyg, cynllun beicio i'r gwaith a phensiwn cyflog terfynol (6%).
Am y Rôl
Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfryngau a Chyfathrebu medrus a rhagweithiol i gynyddu proffil cyhoeddus Cyngor Celfyddydau Cymru ac i fynd ati’n rhagweithiol i hybu dealltwriaeth gywir a chadarnhaol am rôl Cyngor y Celfyddydau o ran cefnogi a hyrwyddo’r celfyddydau.
Yn y rôl amrywiol hon, byddwch yn arwain ar berthnasoedd â’r cyfryngau, gan ddatblygu ymgyrchoedd effeithiol a chreu cynnwys deniadol ar draws llwyfannau digidol a thraddodiadol. Byddwch yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid i gyfleu negeseuon allweddol, ac yn cefnogi cyfathrebu mewnol ac allanol. Byddwch hefyd yn cyfrannu at gynllunio strategol, cyfathrebu mewn argyfwng, a datblygu polisïau.
Amdanoch chi
Bydd gennych brofiad sylweddol o berthnasoedd cyfryngau a chyfathrebu, gyda hanes profedig o reoli ymgyrchoedd, ymgysylltu â’r cyfryngau, a chreu cynnwys.
Byddwch yn hyderus yn gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg, gyda sgiliau ysgrifennu a rhyngbersonol rhagorol, a’r gallu i feithrin perthnasoedd cryf gyda’r cyfryngau, partneriaid a thimau mewnol.
Fel unigolyn creadigol gyda mewnwelediad strategol, byddwch yn ffynnu mewn amgylchedd prysur, gan gydbwyso blaenoriaethau lluosog wrth gynnal safonau uchel a sylw i fanylion.
Yr Iaith Gymraeg
Rydym yn gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (ysgrifenedig a llafar) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Bydd angen i chi allu cyfathrebu’n hyderus yn y ddwy iaith mewn cyfarfodydd, yn unigol ac yn gyhoeddus.
Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n deall diwylliant Cymru, y berthynas amrywiol sydd gan bobl Cymru gyda’r iaith Gymraeg, ac sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo defnydd cynyddol o’r Gymraeg yn ieithyddol ac yn ddiwylliannol o fewn Cyngor Celfyddydau Cymru a’r sector ehangach.
Mae gan bawb eu stori eu hunain gyda’r iaith, ac rydym yn cydnabod bod lefelau hyder yn amrywio o berson i berson. Rydym angen unigolyn sy’n hyderus ac yn rhugl yn y Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Amrywiaeth a chynhwysiant
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.
Bydd y Cyngor Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen
Cynllun Hyderus o ran Anabledd
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, sy'n ymroddedig i gyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol a nodir yn y fanyleb person.
Cyfeiriwch at ddolen Cynllun Cyflogwr hyderus o ran anabledd Gov.uk am ragor o fanylion.
Gweithio hyblyg
Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg neu rannu swydd.
Nodwch yn glir yn eich cynnig ar gyfer unrhyw beth heblaw gweithio’r oriau a hysbysebwyd yn eich e-bost eglurhaol wrth gyflwyno’ch cais.
Sut i ymgeisio
Cyflwynwch y Ffurflen Gais yn fformat Word i ad@celf.cymru. Cwblhewch y Ffurflen Monitro ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant drwy'r ddolen Microsoft Forms sydd i’w chael yn y ffurflen gais.
Os hoffech chi gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.
Dyddiad cau: 12pm (hanner dydd) Dydd Gwener 14 Tachwedd 2025
Cyfweliadau: Dydd Gwener 28 Tachwedd 2025 (mewn person yng Nghaerdydd)