Cwrs preswyl 5 diwrnod byr ar gampws fferm coetir Coleg y Mynydd Du ger Talgarth. Profwch ein dull unigryw o ddysgu, newid systemau a gweithredu  hinsawdd. Ail-ddychmygwch eich cymuned, eich busnes a'ch bywyd yng ngoleuni'r argyfwng planedol, a datglowch lwybrau clir ar gyfer newid cadarnhaol.

Mae dull CMD yn uno niwrowyddoniaeth, dealltwriaeth drylwyr o ecoleg a newid systemau, ac ymarfer creadigol er mwyn eich darparu ag offer newydd. Byddwn yn cymhwyso profiadau creadigol a gwybyddol i wella eich gallu i ddysgu, newid, ac addasu.

Mae llawer o'r dysgu yn digwydd y tu allan yn nhroedfryniau'r Mynydd Du, ar ein fferm 120 erw a'n coetiroedd cyfagos. Bydd dysgu ym myd natur, treulio amser yn yr awyr agored ac ymgysylltu â'ch synhwyrau yn eich helpu i fynd i’r afael â phroblemau mewn ffyrdd newydd.

Yn cynnwys rhestr gampus o hwyluswyr: sylfaenwyr 'Culture Declares' Ackroyd & Harvey, yr awdur gwyddoniaeth a'r ymgyrchydd profiadol Mark Lynas, y bardd a’r berfformwraig Zena Edwards, y niwrowyddonydd a'r ddawnswraig Hanna Poikonen, a'r awdur arobryn Ben Rawlence

12 - 16 Gorffennaf 2023