Mae StammerMouth cwmni theatr newydd o Gymru wedi ennill gwobr fawreddog y Fringe First am eu sioe CHOO CHOO!  (Or... Have You Ever Thought About ****** **** *****? (Cos I Have)). Mae CHOO CHOO!  yn rhan o raglen Partneriaeth Genedlaethol Caeredin gan y Pleasance, sy'n cael ei chyflwyno law yn llaw â Theatr y Sherman.

Pwrpas gwobrau Fringe First y Scotsman’s yw cydnabod ysgrifennu eithriadol o'r newydd yng Ngŵyl Fringe Caeredin. Wedi'i hysgrifennu gan Nye Russell-Thompson, Duncan Hallis, Nerida Bradley a Tafsila Khan a'i chyfarwyddo gan Nerida Bradley, mae CHOO CHOO!  yn archwiliad chwareus a theimladwy am Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol. Disgrifiodd Sally Stott, o’r Scotsman’s, y ddrama fel ‘archwiliad gwreiddiol a beiddgar o iechyd meddwl a ffurf theatrig’.

StammerMouth yw derbynwyr Cymru eleni o raglen Partneriaeth Genedlaethol Caeredin sydd wedi gweld y Pleasance, am yr ail flwyddyn yn olynol, yn gweithio gyda Theatr y Sherman i nodi a chefnogi cwmni cyffrous o'r newydd i berfformio yn y Fringe.

Mae CHOO CHOO! hefyd wedi'i henwebu am wobr gyda'r Neurodiverse Review yn y categori BOP Theatr Eithriadol. Mae llwyddiant eleni yn dilyn derbynnydd llynedd o Bartneriaeth Genedlaethol Caeredin y Sherman a'r Pleasance, sef difficultstage, yn ennill Gwobr Talent Newydd David Johnson am An Audience with Milly-Liu.

Mae CHOO CHOO!  yn parhau yn y Pleasance Dome am 1.15yp bob dydd tan 28 Awst.