Dysgwch sut mae llunio eich strategaeth cynnwys eich hun, cysylltu â chynulleidfaoedd a mwynhau gwneud hynny.
Mae bron popeth ar-lein yn dod yn ôl i’r cynnwys. Y ffordd rydyn ni’n cyflwyno ein hunain i’r byd sy’n cyfrif a, phan fyddwn ni’n gwneud hynny’n iawn, dyma un o’n hadnoddau mwyaf pwerus ar gyfer cysylltu cynulleidfaoedd â’r celfyddydau a diwylliant.
Mae manteision ac anfanteision i gyhoeddi cynnwys. Yn sicr, mae’n hawdd cael pethau allan i’r byd ond, heb strategaeth, gall cynnwys fod yn llanastr heb gynulleidfa amlwg, dim pwynt clir ac, yn y pen draw, dim budd amlwg.
Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Y camau ar gyfer llunio strategaeth cynnwys digidol, mewn byd delfrydol ac yn ein byd mwy realistig
- Astudiaethau achos o strategaethau cynnwys, yn llawn syniadau da.
Dyddiad: Dydd Iau 20 Gorffennaf 2023 1:30pm - 2:30pm
Archebwch eich lle yma: https://www.tickettailor.com/events/theaudienceagency/900687
Pwy:
Mae’r sesiwn hon wedi’i theilwra i farchnadwyr, curaduron a chrewyr cynnwys.
Unrhyw un sy’n cyhoeddi cynnwys ac nad ydyn nhw’n siŵr beth yw’r pwynt, neu bobl sy’n awyddus iawn i gael cydweithwyr yn eu sefydliad i fod ychydig yn fwy strategol.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu:
- Fframwaith ar gyfer cynllunio eich strategaeth eich hun
- Gwybodaeth gan rywun sydd wedi defnyddio'r strategaeth ychydig o weithiau
- Arfer gorau gan bobl glyfrach na mi yn y sector a’r tu allan iddo.
Hwylusydd:
Adam Koszary, Pennaeth Digidol
Aeth Adam yn feiral gyda defaid mawr yn The MERL ac fe wnaeth helpu gyda chynnwys a strategaeth cyfryngau cymdeithasol Academi Frenhinol y Celfyddydau, Llundain.
Fformat:
Mae’r sesiwn hon yn weminar 60 munud ar ffurf gweithdy, gyda'r cyfle i gyfrannu eich syniadau a gofyn cwestiynau.
Cost: Am ddim