Mewn partneriaeth newydd gyffrous rhwng artistiaid a gwasanaethau llyfrgell ar draws De a Chanolbarth Cymru, bydd sioe ddwyieithog ar gyfer plant y blynyddoedd cynnar a’u teuluoedd yn mynd ar daith eang tan fis Gorffennaf 2025.
Mae Mali a’r Môr wedi’i chreu gan Tamar Williams a Naomi Doyle ac yn seiliedig ar lyfrau poblogaidd Molly/Mali gan Malachy Doyle ac Andrew Whitson. Perfformir y sioe yn y Gymraeg a’r Saesneg, trwy gân, stori, a phypedwaith, ac mae’n addas ar gyfer oedran 3+, gyda chroeso i frodyr a chwiorydd iau ymuno hefyd.
Mewn a mas, mewn a mas: mae’r môr yn dod â phethau ac yn cymryd pethau i ffwrdd. Mae Mali yn gwybod hyn. Mae ei chartref annwyl ar yr ynys yn llawn trysorau wedi’u gadael gan y llanw. Bob dydd, mae Mali, gyda’i doli fach Megan wrth ei hochr, yn gwylio’r môr: yn aros i gwch pysgota Dada ddod adref. Ond un diwrnod, mae’r tonnau’n troi’n stormus, a dydy cwch Dada ddim yn ymddangos. A gall Mali a Megan ddod o hyd i ffordd o ddod ag ef adref?
Mewn partneriaeth â phum gwasanaeth llyfrgell lleol, mae’r sioe yn cychwyn ar daith uchelgeisiol 54-perfformiad yr wythnos hon, gan ddechrau fel rhan o Ŵyl Llenyddiaeth Plant Pen-y-bont ar Ogwr gydag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen. Bydd y sioe yn rhoi profiad cyntaf o theatr i bobl bach mewn lleoliad cyfarwydd ac yn annog teuluoedd sydd gyda plant yn dysgu Cymraeg i archwilio’r iaith gyda’i gilydd drwy berfformiad deniadol a rhyngweithiol.
Bydd y daith yn ymweld â Sir Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Chwefror a mis Mawrth, Sir Fynwy ym mis Ebrill a mis Mai, Torfaen ym mis Mai a Mehefin, Powys ym mis Mehefin a mis Gorffennaf a Bro Morgannwg ym mis Gorffennaf. Mae rhestr lawn o ddyddiadau’r daith ar gael yma:
https://www.tamarelunedwilliams.com/mali
Gyda diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru a phartneriaid y brosiect: Graffeg, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Llyfrgelloedd Sir Fynwy, Llyfrgelloedd Powys, Llyfrgelloedd Bro Morgannwg, Llyfrgelloedd Torfaen ac Adverse Camber.