Bydd perfformiadau o’r ddrama Y Naid i godi ynwybyddiaeth am y peryglon o nofio a neidio mewn i ddwr sy heb eu monitor yn hardaloedd Bae Caerdydd. Nod cynhyrchiad Theatr na nÓg, a gomisiynwyd gan Awdurdod Harbwr Caerdydd, Associated British Ports a Chelfyddydau & Busnes Cymru yw annog pobl ifanc I wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am y peryglon.
Enillodd Y Naid Wobr Amgylchfyd gan Celfyddydau & Busnes yn 2018 ac ers hynny mae’r sioe wedi teithio i ysgolion Caerdydd. Fe’i addaswyd y sgript i ffilm fer yn 2021. Dangoswyd y ffilm ar lein i ysgolion ar draws Caerdydd a’r Fro yn ystod y cyfyngiadau Covid-19 gyda dros 1000 o olygiadau ar-lein.
Dywedodd Natalie Taylor, o Awdurdod Harbwr Caerdydd: “Gall mynd i mewn i ddyfroedd heb ei fonitro, fygwth bywyd ac yn anffodus bu nifer o ddigwyddiadau difrifol yn ymwneud â dŵr yng Nghaerdydd yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r effaith y mae’r cynhyrchiad theatr hwn wedi’i chael ar y bobl ifanc sydd wedi’i weld wedi bod yn sylweddol. Dyna pam mae Awdurdod Harbwr Caerdydd yn buddsoddi ymhellach, i wneud yn siŵr bod cymaint o bobl â phosibl yn ei weld, y gallai o bosibl achub bywydau.”
Dywedodd Tom Blumberg, Cyfarwyddwr Y Naid: “Fel cynhyrchwyr theatr i bobl ifanc, gyda dros 10,000 yn gweld ein cynyrchiadau bob blwyddyn, rydym yn sylweddoli ein bod mewn sefyllfa freintiedig lle gallwn addysgu a hysbysu yn ogystal â diddanu.
“Mae peryglon dŵr agored yn real iawn ond mae gwybod y bydd dros 1000 o bobl ifanc ac athrawon wedi gweld Y Naid yn fy ngwneud yn obeithiol y gallwn wneud gwahaniaeth.”
Mae ysgolion sy'n ymweld â'r Eglwys Norwyaidd ym mis Mai a mis Mehefin hefyd wedi cael cynnig gweithdai gan Awdurdod Harbwr Caerdydd, gan gynnwys trochi pyllau dan arweiniad David Bath. Mae’r gweithdai’n cynnwys cyfleoedd i ddysgu mwy am ecoleg Bae Caerdydd, gan gynnwys Ynys Echni.
Dywedodd Karen Flynn, Pennaeth Ysgol Gynradd Hywel Dda Trelai, Caerdydd: “Pan fyddwn yn anfon ein disgyblion i ffwrdd ar eu gwyliau haf, rydym am iddynt gael hwyl, yn ddiogel. Gallai cynhyrchiad 45 munud helpu i achub bywydau trwy addysgu a hysbysu am beryglon dŵr heb ei fonitro.
“Rydw i wir yn gweld gwerth addysg drwy’r celfyddydau mynegiannol ac rwy’n credu’n wirioneddol y dylai pob ysgol yng Nghymru achub ar y cyfle i brofi theatr fyw.”
Mae’r cynhyrchiad ysgolion yn rhad ac am ddim i’w weld yn Eglwys Norwyaidd Bae Caerdydd 22 - 25 Mai yn y Saesneg ac 5-8 Mehefin yn Gymraeg.