Rheolwr Marchnata Llawrydd
Ffi: £250 y dydd
Gweithio 1 diwrnod yr wythnos / 7.5 awr
Tymor penodol 1 Ebrill – 30 Medi 2024 gyda phosibilrwydd o estyniad yn amodol ar gyllid
People Speak Up
Mae People Speak Up (PSU) yn sefydliad cymunedol cymdeithasol, celfyddydol, iechyd, iechyd meddwl, a llesiant sy'n cysylltu pobl a chreu cymunedau iachach a mwy gwydn trwy adrodd straeon, gair llafar, ysgrifennu creadigol, gwirfoddoli, hyfforddi, a'r celfyddydau cyfranogol.
Rydym yn elusen gofrestredig (1193117) wedi ein lleoli yn Ffwrnes Fach, Hwb Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Llanelli yng nghanol tref Llanelli ac yn gweithio ar draws De Cymru.
Rydym yn cael ein hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ymddiriedolaethau a sefydliadau, a thrwy gomisiynau gan fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol.
Sefydlwyd People Speak Up gan y Cyfarwyddydd Artistig a Busnes, Eleanor Shaw, yn 2017 ac mae'n tyfu'n gyflym felly rydym yn ehangu'r tîm gyda chreu’r swydd newydd hon am gyfnod penodol yn unol â'n cyllid cadarn.
Darllenwch am PSU a'n prosiectau cyfredol - www.peoplespeakup.co.uk
Gwyliwch fideo byr am bwy ydyn ni a beth rydyn ni’n ei wneud - https://bit.ly/AboutPSU
Y Rôl
Ar hyn o bryd, mae'r tîm staff yn rhannu'r cyfrifoldeb o hyrwyddo gweithgareddau. Maen nhw’ cymryd fotograffau ac adborth gan gyfranogwyr ac yn eu rhannu, ynghyd â hyrwyddo digwyddiadau'r dyfodol, ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
Mae ein gweinyddwr yn cadw'r wefan yn gyfoes, yn casglu'r wybodaeth ar gyfer ein llyfryn tymhorol ac yn dylunio taflenni. Rydym yn cyflogi cwmnïau i greu ffilmiau am ein prosiectau ac yn gweithio gyda chynghorydd cyfryngau i ysgrifennu datganiadau i'r wasg a chopi yn Gymraeg.
Rydym yn chwilio am rywun i ddatblygu, arwain a gweithredu strategaeth farchnata a chyfathrebu ar gyfer People Speak Up.
Byddwch yn gweithio gyda ni i nodi llwybrau newydd i gyrraedd cyfranogwyr posibl a dod o hyd i ffyrdd dychmygol a deniadol i helpu i godi proffil ein gwaith.
Hoffem i chi weithio gyda'n tîm i greu cynllun cyfryngau cymdeithasol sy'n dathlu ein gweithgareddau, yn hyrwyddo cyfleoedd i gymryd rhan ac yn cydnabod cefnogaeth ein cyllidwyr, rhanddeiliaid a phartneriaid.
Byddwch yn ein helpu i hyrwyddo ein statws fel elusen a ffyrdd o'n cefnogi fel gwirfoddolwyr a llysgenhadon dros ein gwaith yn ogystal ag yn ariannol.
Rydym yn gweithio gyda chymunedau sydd â gofynion mynediad ac yn siarad ieithoedd gwahanol, felly byddwch yn sensitif i sicrhau bod cyfathrebu'n hygyrch a chynhwysol.
Byddwch yn arwain ymgyrchoedd i'r wasg, yn ysgrifennu datganiadau i'r wasg neu'n gweithio gyda'n cynghorydd cyfryngau i'w hysgrifennu.
Rydym yn agored i chi weithio o gartref neu yn People Speak Up am 1 diwrnod yr wythnos neu 7.5 awr wedi'u rhannu dros yr wythnos.
Byddai ymweliadau achlysurol i weld gweithgareddau People Speak Up yn werthfawr i chi gael dealltwriaeth dda o'r sefydliad, felly mae angen i chi fod wedi'ch lleoli yn Ne Cymru ac yn gallu teithio i Lanelli.
Amdanoch chi
Byddwch yn angerddol am gelfyddydau ac iechyd a gweithio gyda'r gymuned leol.
Bydd gennych o leiaf 2 flynedd o brofiad yn dylunio a chyflawni strategaethau marchnata ar gyfer prosiectau celfyddydau cymunedol neu faes tebyg.
Bydd gennych brofiad o ysgrifennu datganiadau i'r wasg ac yn meddu ar gysylltiadau â'r wasg a'r cyfryngau lleol.
Rydym yn gweithio'n bennaf trwy adrodd straeon felly mae gwybodaeth yn y maes hwn yn ddymunol, ac mae diddordeb yn hanfodol.
Mae'r gallu i gynllunio'n dda, bod yn drefnus, gweithio'n dda'n annibynnol, a chyfathrebu'n dda gyda phobl eraill yn hanfodol.
Rydym yn ymdrechu i ddod yn gwmni dwyieithog ac yn cefnogi targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Byddai'r gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg sylfaenol yn ddymunol. Mae bod yn weithgar yn gwella'ch Cymraeg yn hanfodol.
Os ydych chi'n siaradwr Cymraeg rhugl ac yn gallu ysgrifennu copi a datganiadau i'r wasg yn Gymraeg a Saesneg, hyd yn oed yn well.
Bydd gennych le a chyfarpar addas i weithio o gartref neu o ganolfan People Speak Up yn Llanelli.
I Wneud Cais
Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn rhoi enghreifftiau sy’n esbonio sut rydych chi'n bodloni gofynion y rôl, at Eleanor Shaw eshaw@peoplespeakup.co.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10am ddydd Gwener 8 Mawrth 2024
Cynhelir cyfweliadau ar 14 Mawrth yn Ffwrnes Fach, Stryd y Parc, Llanelli SA15 3YE
Mae People Speak Up yn awyddus i gyflawni nodau ac ymrwymiadau ein polisi cydraddoldeb. Mae hyn yn cynnwys peidio â gwahaniaethu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac adeiladu delwedd gywir o gyfansoddiad ymgeiswyr i'n helpu i annog cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein proses recriwtio.
Rydym yn gofyn i chi ein helpu i wneud hyn trwy gwblhau'r ffurflen fonitro cydraddoldeb ac amrywiaeth cyfrinachol hon. Mae cwblhau'r ffurflen yn wirfoddol ac fe gaiff yr wybodaeth a ddarperir ei chadw'n gyfrinachol ac mae’n cael ei defnyddio at ddibenion monitor yn unig.