Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch iawn o lansio Prosiect 40°C - prosiect newydd hirdymor sy’n ymateb i'r argyfwng hinsawdd - gyda galwad am artistiaid i gymryd rhan mewn rhaglen breswyl yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen ym mis Awst.
Mae Prosiect 40°C yn ymateb i'r foment dyngedfennol y llynedd pan y mesurwyd y tymheredd uchaf erioed yn y DU gan y Swyddfa Tywydd. Bwriad y prosiect 4 mlynedd ac amlhaenog hwn yw i ddarganfod ffyrdd creadigol a gwahanol i herio’r hen ffyrdd o ymateb i drychinebau byd natur ac i archwilio sut gall cyfrwng theatr byw ehangu ein dealltwriaeth o’r argyfwng hinsawdd fel rhan annatod o fywyd yng Nghymru heddiw.
Dan arweiniad yr artist arweiniol a’r curadur Dylan Huw, bydd Prosiect 40°C yn cychwyn gyda cyfnod breswyl Gwreiddioli. Gyda chefnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, gwahoddir 5 artist i dreulio cyfnod o 4 diwrnod yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen ger Machynlleth i wrando, herio, cyd-ddychmygu a datblygu syniadau creadigol. Yn ystod rhaglen breswyl Gwreiddioli, bydd yr artistiaid yn cymryd rhan mewn sesiynau wedi'u harwain gan artistiaid ac arbenigwyr gwadd o feysydd amrywiol. Yna, bydd yr artistiaid yn ymgynnull i fyfyrio, trafod ac ymateb yn greadigol i’r themâu a’r hyn y maent wedi ei glywed heb y pwysau o orfod cyflwyno unrhyw beth ar ddiwedd y cyfnod.
Meddai’r artist arweiniol Dylan Huw:
“Dwi llawn cyffro i fod yn gweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru ar breswyliad Gwreiddioli, ac i groesawu mwy o artistiaid mewn i’r broses. Craidd y prosiect ers y dechrau yw ymgynnull grŵp o bobl i rannu, gwrando a dychmygu ar y cyd mewn gofod aml-ddisgyblaethol, agored, hael ac ymholgar, ynghylch rhai o faterion mwyaf hollbresennol (a llethol) ein hoes. Ry’n ni’n adeiladu ar waith arloesol sydd wedi bod yn digwydd ymysg artistiaid, mudiadau a chymunedau Cymru ers tro i ganoli gwaith y dychymyg fel arf i wynebu dyfodol heriol. Dwi methu aros i weld beth ddaw o’r haf hwn.”
Mae cyfnod preswyl Gwreiddioli yn gyfle trawsnewidiol i i grŵp o artistiaid fod yn uchelgeisiol am bosibiliadau eu gwaith, i wthio ffiniau theatr ac i herio rhagdybieithau cyffredin am yr argyfwng hinsawdd. Bydd y pum artist yn derbyn ffî o £1,000 yr un am gymryd rhan yn y prosiect.
Mae Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, yn credu’n gryf mewn cynnig gofod creadigol i artistiaid archwilio materion hanfodol fel hyn, ac edrychai ymlaen at ddod i adnabod amrywiaeth o artistiaid llawrydd hefyd ar hyd y ffordd. Meddai Steffan:
“Mae’n holl-bwysig ein bod yn cwestiynu sut mae theatr Gymraeg am ymateb i’r argyfwng hinsawdd, a sut ydyn ni fel cwmni am weithredu yn wyrddach. Rwy’n falch iawn o’n hymrwymiad pendant i weithredu yn wyrdd, ond mae mwy o waith i’w wneud. Mae’r prosiect yma yn gyfle i ni weithredu yn ymarferol, ac adeiladu ar y gwaith cyffrous mae Dylan Huw eisoes wedi bod yn rhan ohoni fel Cymrodyr Cymru’r Dyfodol gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Os ydych chi am ddatblygu syniadau creadigol, herio arferion y cwmni a’r sector, codi ymwybyddiaeth yn ein cymunedau, a phlethu actifyddiaeth a chelf - ymgeisiwch! Mae ymgynnull artistiaid amrywiol ac arbenigwyr ecolegol mewn un gofod yn gyfle hynod gyffrous a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau Prosiect 40°C.”
Mae cael cefnogaeth a chymorth Cyfoeth Naturiol Cymru wrth ddatblygu’r prosiect hwn wedi bod yn werthfawr i Theatr Genedlaethol Cymru, ac mae’r ddau gwmni wedi mwynhau’r cyfle i gydweithio. Meddai Joe Roberts, Prif Gynghorydd Arbenigol: Hamdden a Mynediad Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn falch iawn o gefnogi Prosiect 40°C. Mae ein cynllun corfforaethol newydd yn nodi gweledigaeth, sef ‘byd natur a phobl yn ffynnu gyda'n gilydd’, a'r camau y byddwn yn eu cymryd i helpu i gyflawni hyn. Yn sail i'n hymagwedd mae cydnabyddiaeth bod gan Gymru berthynas unigryw â natur trwy ei hiaith a'i diwylliant – perthynas y dylid ei gwerthfawrogi a'i dathlu. Mae'r prosiect hwn yn cynnig cyfle anhygoel i artistiaid o Gymru archwilio'r berthynas hon. Heb os, bydd y rhaglen a grëwyd gan Dylan Huw yn ysbrydoli trafodaeth heriol ynghylch hunaniaeth, iaith, cyfiawnder cymdeithasol a'r argyfyngau hinsawdd a natur."
Gwahoddir artistiaid sy’n gweithio trwy unrhyw gyfrwng i ymgeisio am y cyfle hwn. Gofynnir eu bod yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn, yn siarad Cymraeg neu’n awyddus i gynyddu eu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith, a’u bod yn artist sy’n weithiwr llawrydd celfyddydol. Bydd dau gam i’r broses ymgeisio ar gyfer rhaglen breswyl Gwreiddioli ac mae’r cam cyntaf, sef y cyfnod mynegi diddordeb, yn agor heddiw.
Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch Prosiect 40°C a’r cyfnod preswyl Gwreiddioli ar wefan y cwmni