Bu Dafydd tan yn ddiweddar yn Gyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Cychwynnodd ei yrfa yn HTV Cymru yn yr 1980au gan weithio ar raglenni plant ac adloniant ysgafn a rhwng 1991 a 1998 bu'n Olygydd Comisiynu ac yna'n Gyfarwyddwr Darlledu S4C. Yn 2000, sefydlodd Dafydd ei gwmni cynhyrchu annibynnol ei hun, Pop 1, fel rhan o grŵp Tinopolis. Bu'n Gyfarwyddwr Cynnwys i S4C am bum mlynedd o fis Mawrth 2012. Mae hefyd yn Gadeirydd AM Cymru – y gwasanaeth ffrydio gwefan, ap a cherddoriaeth a sefydlwyd gan PYST, ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru - ac mae wedi bod yn un o Ymddiriedolwyr Cyngor Celfyddydau Cymru ers 2017.

Gan siarad heddiw, meddai Dafydd:

"Edrychaf ymlaen yn fawr at adeiladu ar y sylfeini cadarn a  sefydlwyd gan fy rhagflaenwyr, wrth i ni barhau â'n cenhadaeth i sicrhau bod y celfyddydau yng Nghymru er budd pawb.  

"Er ein bod yn wynebu llawer o faterion brys yn y celfyddydau yng Nghymru, gan gynnwys gwella cydraddoldeb ac amrywiaeth, rwyf wedi fy argyhoeddi o'r effaith gadarnhaol y gall y celfyddydau ei chael ar bob agwedd o'n bywyd cenedlaethol.  Credaf  yn angerddol yng ngwerth y celfyddydau a'u gallu i wneud gwahaniaeth i fywyd a lles ein cenedl ac rwyf am wneud yn siŵr bod y celfyddydau ar gael, ac yn fforddiadwy, i gymunedau ym mhob rhan o Gymru.

"Mae'r argyfwng costau byw yn her benodol i sector y celfyddydau ar hyn o bryd.  Yn ddiweddar, dangosodd arolwg a gynhaliwyd gennym yr effaith y mae’n ei gael ar artistiaid unigol a sefydliadau celfyddydol.

"Mae'r 67 cwmni sy'n cael arian gennym ni fel rhan o bortffolio celfyddydau Cymru yn dal i gyflogi llai o staff nag oedden nhw cyn pandemig Cofid ac mae rhai cwmnïau wedi dweud wrthym fod lefelau cynulleidfaoedd 20%-40% yn is nag oeddent cyn y pandemig.

"Mae 56% o'r holl sefydliadau yn poeni'n ofnadwy am effaith cynnydd costau ynni arnyn nhw ac mae costau llwyfannu cynyrchiadau 20-40% yn fwy na blwyddyn yn ôl.  Mae lleoliadau sydd â bariau a chaffis,  sy'n aml yn ariannu cymaint o bethau eraill mewn theatrau a lleoliadau, yn cael eu taro gan gynnydd yng nghostau bwyd a diod.  Mae Cyngor y Celfyddydau eisoes wedi cyflwyno tystiolaeth ar y mater hwn i bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd a bydd adroddiad sy’n deillio o’r arolwg a gynhaliwyd gennym yn ddiweddar yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn y mis.  Bydd Cyngor y Celfyddydau yn parhau i fod yn llais dros y sector ac yn ceisio pob  cyfle i gyflwyno'r achos dros werth y celfyddydau yng Nghymru er budd pawb."

"Rwy'n ddiolchgar iawn i Michael Elliott am y gwaith y mae wedi bod yn ei wneud fel Prif Weithredwr dros dro ers mis Mawrth."

DIWEDD                                 Llun 17 Hydref 2022