Mae POWER UP, y fenter arobryn yn y Deyrnas Unedig sy’n hyrwyddo talent Ddu gyffrous yn y wlad ac yn mynd i’r afael â hiliaeth wrth-Ddu a gwahaniaethau hiliol yn y sector cerddoriaeth, yn cyhoeddi heddiw fanylion cyffrous y bartneriaeth newydd â Chyngor Celfyddydau Cymru a sut gall pobl gymryd rhan.

Rhwng 12 a 19 Medi 2022, bydd POWER UP a Chyngor Celfyddydau Cymru yn dod â dosbarthiadau meistr digidol, mewn partneriaeth â’r dosbarthwr annibynnol arweiniol Believe, i greawdwyr cerddoriaeth Du yng Nghymru a chreawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol du y diwydiant sydd wedi’u lleoli y tu allan i Lundain. Bydd arbenigwyr yn nhîm Believe yn cynnal y dosbarthiadau meistr a fydd yn ymdrin â’r pynciau canlynol:
 

  1. Adborth Artistiaid a Repertoire (A&R) (creawdwyr cerddoriaeth Du wedi’u lleoli yng Nghymru yn unig)
  2. Rheoli ymgyrch (creawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant wedi’u lleoli y tu allan i Lundain)
  3. Dosbarthu (creawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant wedi’u lleoli y tu allan i Lundain)
  4. Marchnata (creawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant wedi’u lleoli y tu allan i Lundain)
  5. Gwledydd a rhanbarthau (creawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant wedi’u lleoli y tu allan i Lundain)
  6. Cyllid (creawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant wedi’u lleoli y tu allan i Lundain)


Gall creawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol y diwydiant sy’n gymwys gael gwybod mwy a chofrestru ar gyfer y dosbarthiadau meistr ar wefan Sefydliad PRS. Yn ogystal, bydd pedair sesiwn dosbarth meistr wyneb yn wyneb arall yn cael eu trefnu ar gyfer mis Ionawr 2023 a bydd mwy o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi yn ystod y misoedd i ddod.

Bydd y bartneriaeth newydd hon â Chyngor Celfyddydau Cymru hefyd yn dechrau’r broses o sefydlu Grŵp Gweithredu ar Gerddoriaeth Ddu Cymru yn ystod y misoedd i ddod. Bydd y grŵp gweithredu, a ffurfiwyd o ganlyniad i grwpiau ffocws, yn cyfrannu at weithredu’r Mudiad POWER UP yng Nghymru a’i sbarduno, ac yn chwarae rhan ddylanwadol wrth gyflawni newid amlwg yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.

 

Yn ogystal, ym mis Chwefror 2023, bydd POWER UP yn gwahodd creawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant wedi’u lleoli yng Nghymru i ddigwyddiad rhwydweithio arbennig yn Llundain. Hefyd, drwy gydol y bartneriaeth, bydd sgyrsiau cysylltiedig â’r Mudiad POWER UP yn cael eu cynnal gyda’r Gynghrair Cerddoriaeth Ddu, Bywydau Du mewn Cerddoriaeth, ADD, BAFA a mentrau cysylltiedig eraill ledled y Deyrnas Unedig i alluogi cyflawni canlyniadau penodol y Mudiad POWER UP yng Nghymru.

 

 

Dywedodd Yaw Owusu, Uwch Reolwr y Rhaglen POWER UP yn Sefydliad PRS, “Bydd y bartneriaeth newydd gyffrous hon gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, a chyda chymorth gan Believe, yn galluogi POWER UP i gyrraedd a chefnogi creawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant wedi’u lleoli yng Nghymru mewn ffyrdd pwrpasol sy’n cael effaith. Anogaf dalent Ddu yng Nghymru i gysylltu a chymryd rhan yn y gyfres werthfawr hon o gyfleoedd i helpu i lywio a datblygu gyrfaoedd mewn cerddoriaeth.

 

Dywedodd Andrew Ogun, Asiant dros Newid yng Nghyngor Celfyddydau Cymru, “Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch iawn o ffurfio partneriaeth â POWER UP a Believe yn y fenter allweddol hon sy’n ceisio cefnogi creawdwyr cerddoriaeth Du yng Nghymru. Mae ehangder y dalent Ddu sydd gennym yng Nghymru yn rhyfeddol, ac mae’n fraint gallu darparu llwyfan ac adnoddau i fynd â’r artistiaid hyn i lefel nesaf eu taith greadigol. Mae Cerddoriaeth o Darddiad Du yng Nghymru yn bair berw o dalent, ac rydym yn gyffrous i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o artistiaid sy’n dod trwodd o fewn y genres hyn.

 

Dywedodd Leigh Morgan, Cyfarwyddwr Byd-eang, Believe Electronic, “Rydym yn falch iawn o barhau i gefnogi’r rhaglen POWER UP mewn partneriaeth â’r tîm gwych yn Sefydliad PRS. Mae’n gyffrous i Believe allu helpu’r gymuned gerddoriaeth Ddu o artistiaid a gweithwyr proffesiynol ar eu taith a’u helpu i gyrraedd eu nodau. Mae cymaint o bosibiliadau, ac rydym yn credu ei bod yn fenter mor bwysig i helpu i chwalu’r rhwystrau systemig a chreu ecosystem deg a gwastad. Rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod â phawb.”

 

Lansiwyd POWER UP yn 2021 gyda Time To Power Up, ac fe’i cyd-sefydlwyd gan Ben Wynter a Sefydliad PRS mewn partneriaeth â YouTube Music, Beggars Group, Spotify a’r Gynghrair Cerddoriaeth Ddu. Mae’r fenter yn dwyn ynghyd sawl partner yn y diwydiant cerddoriaeth ar draws pob sector i gyflymu newid, gyda chefnogwyr yn cynnwys Creative Scotland, Believe, Simkins, Cyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Paul Hamlyn, yn ogystal ag AIM, y BPI, yr FAC, Academi Ivors, yr MMF, yr MPA, MPG, Undeb y Cerddorion, PPL, PRS ar gyfer Cerddoriaeth a Chronfa Aelodau PRS, yn ogystal â’r Partner Cyswllt, Daft Springer, sydd oll yn ychwanegu at y gefnogaeth i Gyfranogwyr POWER UP.

Mae mwy nag 80 o weithredwyr a chreawdwyr cerddoriaeth Du wedi dod ynghyd i gyfrannu at POWER UP a gosod y cyfeiriad ar ei gyfer. Sefydlwyd Grŵp Llywio Gweithredol yn hwyr yn 2020 yn cynnwys rhai o’r gweithwyr proffesiynol Du mwyaf dylanwadol yn niwydiant cerddoriaeth y Deyrnas Unedig. Ochr yn ochr â’r Grŵp Llywio Gweithredol, treiddiodd saith grŵp ffocws a oedd yn ymdrin â Recordio a Chyhoeddi, Byw, Platfformau, Rhywedd, Rhywioldeb, Menter a Rhanbarthiaeth yn ddyfnach i’r rhwystrau y mae creawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol Du wedi’u profi ar draws y sector a sut gellid mynd i’r afael â nhw.

 

Cydnabuwyd 12 mis cyntaf gwaith dylanwadol POWER UP yn ddiweddar gan y Wobr Changemaker gan IMPALA sydd newydd ei lansio, sy’n ceisio amlygu prosiectau sy’n hyrwyddo newid yn y sector annibynnol ac ysbrydoli pobl eraill i weithredu.

 

Mae rhwydwaith Cyfranogwyr POWER UP, sydd bellach yn ei ail flwyddyn, yn rhwydwaith cryf o 80 o bobl, gan gynnwys Cyfranogwyr wedi’u lleoli yng Nghymru, Lekan Latinwo, Mace the Great a Tumi Williams, sy’n dod â phrofiadau amrywiol ac arbenigedd sylweddol i’r rhwydwaith Cyfranogwyr y Rhaglen a’r Mudiad POWER UP ehangach. Maen nhw eisoes wedi sbarduno talent sydd wedi ennill gwobrau a’r rhai hynny sy’n dominyddu rhestrau chwarae a pherfformwyr ac yn ymgymryd â swyddi uwch a Bwrdd ar draws y diwydiant.

Dysgwch fwy am POWER UP a sut gallwch gymryd rhan ar wefan Sefydliad PRS.