Mae Rhodri Trefor wedi ei benodi gan Cyngor Celfyddydau Cymru fel cydlynydd Dysgu Cymraeg.
Gan siarad heddiw dywedodd Rhodri:
“Fy mwriad ydi i gynyddu siaradwyr Cymraeg ymysg sefydliadau a gweithwyr llawrydd yn y Celfyddydau. Dwi’n benderfynol o wneud fy ngorau i sicrhau cyfleon teg i bawb ac i gynyddu a chryfhau’r gweithwyr sy’n gallu’r Gymraeg ym myd y celfyddydau.
“Dw i eisiau clywed eich pryderon, awgrymiadau ac unrhyw rwystrau sydd gyda chi ynglŷn â dysgu Cymraeg.
“Beth alla i wneud i helpu? Hoffwn eich gwahodd i gysylltu â mi am sgwrs. Anfonwch e-bost neu gallwn drefnu sgwrs wyneb-yn-wyneb: Rhodri.trefor@celf.cymru
“Mae sawl cynllun ar fin cael eu rhoi ar waith sy’n mynd i’ch cynorthwyo chi neu eich sefydliad boed hynny fel cwmni neu’n weithwyr llawrydd.
“Rhannwch y wybodaeth yma gyda phawb ac edrychaf ymlaen yn arw at eich cyfarfod chi oll. Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb!”
PEIDIWCH AROS - Pam na wnewch chi'r cwrs blasu “CROESO” (1 a 2) sydd ar-lein ac am ddim yma:
https://dysgucymraeg.cymru/cymraeg-gwaith/cyrsiau-cymraeg-gwaith/cyrsiau-blasu-ar-lein/
DIWEDD 5 Hydref 2022