Mae Cyngor Celfyddydau Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, mewn partneriaeth â'r Cyngor Prydeinig, Cyngor Celfyddydau Lloegr a’r Alban Greadigol, yn cefnogi rhaglen breswyl ryngwladol newydd â’r nod o roi noddfa greadigol i artistiaid a gweithwyr diwylliannol yn sgil eu profiad o ryfel.
Bydd y fenter yn cynnig amser, lle a chefnogaeth i 9 artist o Libanus, Yemen, Palesteina ac Wcráin ddatblygu eu hymarfer mewn sefydliadau diwylliannol blaenllaw ledled Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr.
Yng Nghymru, bydd Llenyddiaeth Cymru yn croesawu'r bardd, cyfieithydd a churadur o Wcráin, Tania Rodionova, i breswylfa bwrpasol i gefnogi ei gwaith llenyddol a magu cysylltiadau newydd ag awduron a darllenwyr yma.
Meddai Tania Rodionova, a fydd yn cael ei chroesawu gan Llenyddiaeth Cymru:
“Nid yw bod yn rheolwr diwylliannol bob amser yn caniatáu cael yr amser a’r lle ar gyfer fy ngwaith creadigol personol. Ac mae bywyd yn Wcráin yn ystod cyfnod rhyfel yn ei gwneud hi’n anoddach fyth. Felly, fy nisgwyliadau ar gyfer y breswyliad yn Tŷ Newydd yw cael y gofod arbennig hwn, ond ni ellir anwybyddu fy niddordeb proffesiynol mewn sefydliadau llenyddol lleol a chyfleoedd cydweithio yn y dyfodol!”
Mae'r rhaglen yn adeiladu ar brosiect peilot llwyddiannus yn 2023 yn yr Alban yn ystod Tymor Diwylliant y DU/Wcráin. Ei nod yw rhoi cyfle i feddwl a chreu i artistiaid o leoedd lle mae rhyfel a meithrin dealltwriaeth ar draws diwylliannau’r DU a thramor.
Ymhlith y sefydliadau sy'n cymryd rhan mae Llenyddiaeth Cymru; Prifysgol Wlster/Gŵyl Ffilm Belffast; Gweithdy Cerfluniau Caeredin, Mon Ìothaig Mhòr (Canolfan Ysgrifennu Creadigol) a Chanolfan Gelfyddydau’r Pîr yn yr Alban; Sefydliad Delfina, Stiwdios ACME a Chanolfan Gelf Gyfoes y Baltig yn Lloegr.
Meddai Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:
"Mae'r rhaglen yn ymgorffori'r ysbryd o gydweithio sydd wrth wraidd gwaith Cyngor Celfyddydau Cymru ac, o ran cysylltiadau rhyngwladol, waith ein cangen ryngwladol Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Drwy ein partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru, rydym yn falch o gymryd rhan yn y fenter i greu lle sy’n cynnig gofal a cyfle am gyfnewid creadigol. Mae’n cysylltu Cymru ag artistiaid sydd â neges i’n dynoliaeth ar draws ffiniau. Bydd y breswylfa’n rhoi amser i Tania ddatblygu ei hymarfer a rhannu ei phrofiadau gan gyfoethogi ein cymuned lenyddol gyda safbwyntiau newydd ar wytnwch, iaith a gwaith y celfyddydau ar adegau ansicr."
Meddai Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru:
chat gbt of new quote “Mae’n anrhydedd croesawu Tania i Gymru a chefnogi ei thaith greadigol. Yn Llenyddiaeth Cymru, rydym yn credu bod geiriau a straeon yn gallu croesi ffiniau a magu empathi mewn ffyrdd grymus. Bydd y breswylfa’n cynnig amser i Tania ysgrifennu, meddwl a chysylltu â phobl. Rydym yn gwybod y bydd y cyfnewid syniadau a phrofiadau yn ysbrydoli awduron a darllenwyr yma hefyd."
Meddai Ruth Mackenzie, Cyfarwyddwr y Celfyddydau yn y Cyngor Prydeinig:
"Mae'r breswylfa’n cydnabod bod cefnogi'r artistiaid yn codi pontydd ar draws ein cymuned gelfyddydol fyd-eang a chyfrannu at heddwch a ffyniant. Cafodd y Cyngor Prydeinig ei sefydlu ym 1934 i gefnogi artistiaid mewn gwledydd ledled y byd a oedd mewn perygl gwleidyddol. Rydym yn parhau â'r un genhadaeth heddiw. Mae'r rhaglen yn darparu lle ar gyfer ymarfer artistig a chryfhau cymuned yr artistiaid."
Bydd y rhaglen yn rhedeg tan Orffennaf 2026. Bydd yn cynnig cyfle i’r sefydliadau dan sylw ddyfnhau eu dealltwriaeth o ddiwylliannau newydd ac uniaethu ag artistiaid a fu’n gweithio mewn amgylchiadau eithriadol.
Drwy greu cyfleoedd i feddwl a chyfnewid syniadau, bydd y preswylfeydd yn cynnal lleisiau creadigol yn sgil y profiad o ryfel a chryfhau lle Cymru yn y gymuned fyd-eang o artistiaid sy'n meithrin dealltwriaeth a gobaith.