Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar y bydd Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru’n ymestyn Dysgu creadigol drwy'r celfyddydau - cynllun gweithredu ar gyfer Cymru am ddwy flynedd pellach, mae'r tîm yn falch iawn o fedru rhannu manylion cam nesaf y rhaglen a’i ymateb i Covid-19.

Wrth i ysgolion weithio'n ddiwyd i addasu a gweithredu ffyrdd newydd o ryngweithio â'u dysgwyr, rydym ni wrthi hefyd yn dal ati i archwilio sut y gallwn gefnogi ysgolion i wireddu parhad dysgu, a rhoi'r celfyddydau a chreadigrwydd wrth galon addysg.

Ein nod yw darparu offer dysgu creadigol, gafaelgar â ffocws celfyddydol ar-lein er mwyn cynorthwyo athrawon a disgyblion mewn ysgolion a chartrefi.

Byddwn yn parhau i ddarparu 3 llinyn allweddol ein rhaglen, sef:

• Ysgolion Creadigol Arweiniol

• Profi'r celfyddydau

• Dysgu proffesiynol

Bydd ein gwaith yn cynnwys comisiynu artistiaid o ddisgyblaethau celfyddydol amrywiol i ddarparu dosbarthiadau meistr a gweithdai ar-lein, a pharhau i arwain profiadau dysgu creadigol. Bydd ein tîm yn cyflwyno gweithdai a seminarau dysgu creadigol ar-lein hefyd, a byddwn yn parhau i weld sector y celfyddydau’n cynorthwyo ysgolion wrth iddynt ddatblygu dulliau creadigol o addysgu a dysgu.

 

Beth fyddwn ni’n ei wneud?


Byddwn ni’n cynorthwyo ysgolion ac athrawon i ddatblygu dulliau creadigol o ddysgu trwy Gynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol ar ei newydd wedd. Bydd y ddarpariaeth newydd yn darparu cyfleoedd i athrawon a disgyblion archwilio sgiliau creadigol a dulliau o fynd ati ym mhob maes dysgu. Byddwn yn tynnu ar sgiliau a gwybodaeth Gweithwyr Proffesiynol Creadigol presennol i ategu'r gwaith hwn. Yn ogystal â hyn, bydd ein tîm Dysgu creadigol yn datblygu sesiynau dysgu proffesiynol ar-lein ar gyfer athrawon i'w cynorthwyo wrth iddynt gynllunio ar gyfer y dyfodol agos a Chwricwlwm Cymru 2022.

Byddwn yn coladu a churadu casgliad o berfformiadau digidol, arddangosfeydd, darlleniadau a gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol eraill er mwyn rhoi'r cyfle i fwy o ddysgwyr ledled Cymru gael profiadau cyfoethogi diwylliannol. Bydd hyn yn adlewyrchu'r profiadau y gall dysgwyr elwa arnynt o'n cronfa Ewch i Weld. Byddwn yn gwahodd partneriaid, sefydliadau ac unigolion i gyflwyno cynnwys ar gyfer yr adnodd hwn.

Er mwyn cynorthwyo athrawon sy'n gweithio ym Meysydd Dysgu a Phrofi’r Celfyddydau Mynegiannol, byddwn yn comisiynu gweithwyr proffesiynol creadigol i ddatblygu dosbarthiadau meistr ar-lein a fydd yn cyflwyno dysgwyr, o bob grŵp blwyddyn, i dechnegau ymarferol newydd.

Byddwn yn rhyddhau manylion y cyfleoedd hyn i ysgolion, artistiaid a sefydliadau ledled Cymru o ddydd Mawrth 28 Ebrill ymlaen.

Am ragor o wybodaeth, cofrestrwch i dderbyn y bwletin Dysgu creadigol neu cysylltwch â dysgu.creadigol@celf.cymru