Mae Theatrau RhCT yn gyffrous i gyhoeddi Parc a Dewrder, gŵyl newydd llawn perfformiadau o waith sydd wrthi'n cael ei ddatblygu yn Theatr y Parc a'r Dâr, Treorci. 

Dros gyfnod o 3 noson,  bydd 12 o artistiaid lleol o Rondda Cynon Taf yn rhannu syniadau cychwynnol ar gyfer cynyrchiadau newydd. Bydd modd i'r cyhoedd gael mynediad at yr achlysur drwy dalu swm o'u dewis nhw (£8, £5, £3, £0).

Bydd gwasanaeth dehongli Iaith Arwyddion Prydain ar gael ym mhob achlysur a bydd cynulleidfaoedd yn cael eu gwahodd i roi eu hadborth. 

Dydd Mercher 19 Mawrth / 7pm / NOSON SBRIGIAU

Bydd Eifion Ap Cadno, Max Hoare, David McSparron, Bridie Smith, Emily Stroud ac Yasmin Williams yn rhannu detholiadau byr iawn o waith newydd yn Stiwdio 1. Cymysgedd eclectig o theatr, dawns, comedi, sgwrs a cherddoriaeth. Bydd rhai darnau wedi cael llai na diwrnod o ymarfer - ffres! 

Dydd Iau 20 Mawrth / 7pm / POTYN POBI

Mae derbynwyr grantiau Potyn Pobi eleni – Bethan Nia, Rebecca Smith-Williams, Sylvia Strand a Jonathan Gregory – yn cyflwyno cymysgedd hyfryd o berfformio a rhyngweithio sy’n archwilio syniadau o’r Gymraeg, lle, sain, hunaniaeth ddiwylliannol ac eogiaid…yn y brif theatr a Stiwdio 1. 

Dydd Gwener 21 Mawrth / 7pm / ARTIST MEWN GWASANAETH

Ar ôl treulio 6 mis yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Celfyddydau a Diwylliannol a chymunedau Cwm Rhondda, mae Artist mewn Gwasanaeth, Harriet Fleuriot a Rhys Slade-Jones, yn gwahodd cynulleidfaoedd i fwrw golwg ar eu gwaith yn Stiwdio 1. Byddan nhw'n rhannu mewnwelediad i'w proses a'r hyn maen nhw wedi'i ddysgu ar hyd y ffordd. Disgwyliwch berfformiadau, sgyrsiau a chwestiynau ac atebion!

Am ragor o wybodaeth neu i brynu tocynnau; ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 03000 040 444, neu ewch i rct-theatres.co.uk/cy.