Mae prosiect newydd gan Menter Iaith Abertawe yn cyflwyno nosweithiau sinema iaith Gymraeg rheolaidd i’r lleoliad Tŷ Tawe yng nghanol dinas Abertawe.
Yn dechrau gyda nosweithiau ffilm ar nos Lun olaf pob mis, mae’r prosiect yn adeiladu ar waith ehangach Menter Iaith Abertawe o gynnig cyfleoedd i ddefnyddio a mwynhau’r iaith Gymraeg yn yr ardal.
Bydd y rhaglen yn cynnwys clasuron o archifau S4C a’r Llyfrgell Genedlaethol yn ogystal â ffilmiau newydd.
Mae pob digwyddiad yn rhad ac am ddim, a bydd y rhaglen gychwynnol hefyd yn cynnwys digwyddiadau ffrinj megis perfformiadau byw a sesiynau holi ac ateb. Ble’n bosib, bydd yr arddangosiadau hefyd yn cynnwys isdeitlau Saesneg er mwyn cynyddu mynediad i ddysgwyr a siaradwyr newydd.
Cychwynnodd y prosiect trwy arddangos y ddrama “Hedd Wyn” ag enillodd enwebiad ar gyfer Gwobr yr Academi, a fydd yn parhau ym mis Ionawr trwy arddangos y clasur arswyd o 1975, “Gwaed ar y Sêr”.
Dywedodd Dafydd Mills, swyddog datblygu Menter Iaith Abertawe - “Mae’r prosiect newydd yma yn ffordd wych i hysbysebu sinema iaith Gymraeg, yn enwedig i siaradwyr newydd bydd o bosib heb ddod ar draws y ffilmiau yma o'r blaen. Mae rhywbeth at ddant pawb yn y rhaglen, o hen glasuron fel Hedd Wyn, i ffilmiau newydd fel Y Sŵn. Cymharol brin yw’r llefydd sy’n arddangos ffilmiau iaith Gymraeg, felly bydd cynnig lleoliad rheolaidd fel hwn yn adnodd pwysig i’r gymuned leol.”
Mae llefydd ar gyfer “Gwaed ar y Sêr” ar nos Lun y 29ain o Ionawr gael i archebu nawr: Noson Ffilm: Gwaed ar y Sêr at Tŷ Tawe event tickets from TicketSource