Ar ran pob un ohonom yng Nghyngor Celfyddydau Cymru hoffwn ddiolch o galon i'r rhai a gyflwynodd geisiadau i Adolygiad Buddsoddi 2023. Daeth y cyfnod derbyn ceisiadau i ben ar 31 Mawrth 2023 a chawsom 141 o geisiadau.
Rydym wir yn gwerthfawrogi'r amser, yr egni a'r ymdrech ar eich rhan i lenwi’r ceisiadau’n fanwl a phleser yw gweld cynifer o geisiadau amrywiol, cyffrous ac anhygoel o greadigol.
Y camau nesaf
Bydd staff Cyngor y Celfyddydau nawr yn dechrau ar y broses asesu. Cam olaf y broses honno fydd craffiad a phenderfyniadau terfynol gan ein Cyngor ym mis Medi 2023 a fydd yn gwneud penderfyniadau 'mewn egwyddor'. Bydd y Cyngor wedyn yn cyhoeddi canlyniad dangosol yr Adolygiad Buddsoddi ac yna bydd cyfle i apelio i’r rhai sydd am ei wneud.
Rydym yn gobeithio gallu cyhoeddi pa sefydliadau sydd wedi bod yn llwyddiannus erbyn diwedd Rhagfyr 2023 er mwyn i ni allu dechrau rhoi cytundebau ariannu ar waith erbyn Ebrill 2024.