Mae National Theatre Wales yn gosod cydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a ffocws ar lesiant yn graidd i’w Weledigaeth wrth greu newid. Mae’r cwmni angen arweinwyr sy’n gallu cefnogi ar y siwrne tuag at gydraddoldeb a gwytnwch meddyliol ar gyfer ei staff, gwenuthurwyr theatr, cyfranogwyr a chynulleidfaoedd, a sydd gyda’r arbenigedd a phrofiad i arwain ei ddatblygiad. Mae gan rôl Cadeirydd y Bwrdd oruchwyliaeth dros NTW, ac yn ei ddal yn gyfrifol.

Yn dilyn proses recriwtio, a gyda chreu newid mewn meddwl, mae’r panel wedi penderfynu penodi dau Gyd-Gadeirydd yn lle un. 

Mae National Theatre Wales yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Yvonne Connikie a Sharon Gilburd fel Cyd-Gadeiryddion. Dechreuodd y ddwy yn y rôl o ddydd Llun 24 Ebrill. 

Mae Sharon Gilburd eisoes yn Ymddiriedolwr gyda NTW. Bydd Yvonne Connikie yn ymuno â'r Bwrdd am y tro cyntaf.

Dywedodd Lorne Campbell, Cyfarwyddwr Artistig National Theatre Wales:

“Dyma gyfle gwych i’r cwmni nawr ddod â dwy set wahanol ac unigryw o wybodaeth a phrofiad i Gadeirio’r Bwrdd. Drwy uno dwy o'r ymgeiswyr, bydd National Theatre Wales yn elwa o ddwbl yr amser a safbwyntiau sydd ar gael i ni a ni methu aros i weld eu dylanwadau cyfunol yn siapio’r cwmni mewn blynyddoedd i ddod.”

Dywedodd Bronwen Price, Prif Weithredwr National Theatre Wales:

“Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn i ni. Fel Ymddiriedolwr presennol, mae gan Sharon wybodaeth am y cwmni yn barod ac fe fydd hi’n cyfuno hyn gyda ei phrofiad proffesiynol i gwestiynu ein gweithrediadau a strategaethau.  Mae Yvonne yn dod â rhinweddau eithriadol o ran ei dealltwriaeth o’r celfyddydau, ei hagwedd cyd-greu a’i rhwydweithiau cymunedol ac fe fydd yn herio ein strategaeth a’n gwaith. Bydd cael trefniant Cyd-Gadeirio yn cefnogi ein gweithdrefnau, tra hefyd yn dod â phersbectif ehangach i’r drafodaeth a phenderfyniadau ar lefel rheolaeth.”

Mae Yvonne Connikie yn Raglennydd/Curadur sy'n arbenigo mewn Ffilm Ddu Annibynnol. Yvonne oedd sylfaenydd Gŵyl Ffilm Ddu Cymru ac yn Aelod Sylfaenol a Chadeirydd y New Black Film Collective a Churadur Cynorthwyol ar gyfer Black London Film Heritage. 

Mae’n arweinydd rhaglen Gŵyl Ffilm Caribïaid Windrush yng Nghasnewydd, ac mae’n parhau i weithio fel Curadur/Rheolwr Prosiect i Charlie Phillips Photography. 

Mae Yvonne yn ymgeisydd PHD ym Mhrifysgol De Cymru sy'n archwilio Gweithgareddau Hamdden Caribïaid Hŷn yn Nhrebiwt, Caerdydd.

Dywedodd Yvonne:

“Mae’n bleser pur cymryd y rôl fel cyd-Gadeirydd NTW. Mae hwn yn gwmni rydw i wedi'i edmygu am ei waith dewr ac ni allaf aros i ddechrau a gweithio ar brosiectau'r dyfodol gyda'n gilydd. Mae gwneud y rôl hon gyda Sharon yn anrhydedd – dydyn ni ddim wedi gweithio gyda'n gilydd o’r blaen ond rydyn ni wedi bod yn trafod sut y bydd y rôl yn gweithio a pha setiau sgiliau gwahanol y byddwn ni'n eu cyflwyno.”

Mae Sharon Gilburd yn strategydd digidol sydd wedi gweithio ers bron i ddau ddegawd gyda busnesau sefydledig a busnesau newydd i drawsnewid eu ffyrdd o weithio, trwy gymhwyso dylunio a thechnoleg ddigidol. Mae ei chleientiaid wedi cynnwys Visa, Orange a Barclaycard. 

Yn wreiddiol o Glasgow, cafodd Sharon ei magu yn Shetland cyn mynychu’r brifysgol yng Nghaeredin lle cafodd ei recriwtio i weithio i Sefydliad Masnach y Byd yng Ngenefa a datblygodd gariad at ystadegau a ieithoedd. Yn fwy diweddar, astudiodd MA mewn Dychymyg Cymhwysol yn y Diwydiannau Creadigol yn Central St Martin’s ac fe gafodd ei phenodi’n Gadeirydd Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yng Nghymru (corff hyd braich i Lywodraeth Cymru). Cymraeg yw prosiect dysgu iaith diweddaraf Sharon; mae byw mewn cymununed cefnogol iaith Gymraeg rhan fwyaf yn helpu’n fawr gyda hyn.

Dywedodd Sharon:
“Dwi wir yn edrych ymlaen at weithio fel cyd-Gadeirydd gyda Yvonne. Mae’n gret bod ganddon ni’r cyfle i ddod â phrofiadau’r ddwy o ni i’r rôl. Mae’r talent a’r ymrwymiad ar y Bwrdd presennol ac ar draws tîm NTW yn anhygoel.  Dwi wedi treulio 6 mis diwethaf yn Ymddirieodolwr a dwi rwan yn edrych ymlaen at fy rôl yn cyflawni’r amcanion ar gyfer NTW a Chymru dros y blynyddoedd nesaf.”

Camodd Clive Jones, Cadeirydd blaenorol y Bwrdd i lawr ar 24 Ebrill 2023 gan fod ei dymor 6 blynedd wedi dod i ben.  Diolchodd y cwmni iddo am ei waith caled a'i ymrwymiad yn ystod ei amser gyda'r cwmni.

Hefyd yn gadael y Bwrdd mae Simon Piroutte ac mae’r cwmni hefyd wedi diolch iddo am ei amser a’i ofal yn ystod ei gyfnod.

Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr NTW hefyd yn cynnwys Anastacia Ackers, Anna Arrieta, Sian Doyle, Robert Edge, Miguela Gonzalez, Tafsila Kahn, Jo Lilford, Sanjiv Vedi, Simon Stephens.