Dydd Iau 4 Medi - Dydd Iau 2 Hydref 2025
Rhagolwg cyhoeddus: Dydd Iau 4 Medi, 6-8pm.
Croeso i bawb, does dim angen archebu.
Rydyn ni’n falch iawn o'ch gwahodd i'n harddangosfa ddiweddaraf gan, Mark Griffiths: An Incremental Demise.
Mae tir yn cario atgofion. Mae'n dal straeon y bobl sydd wedi byw, gweithio, ymgynnull, a galaru arno. Yn y DU, mae'r tirweddau hyn, boed yn gaeau gwyrdd tonnog neu'n safleoedd diwydiannol segur, wedi llunio ein synnwyr o hunaniaeth a pherthyn ers tro byd. Ac eto heddiw, mae'r mannau hyn yn cael eu dal fwyfwy yng nghanol newid, wrth i alwadau cystadleuol am dai, seilwaith, a thwf economaidd fygwth ail-lunio map ein trefi, ein dinasoedd a'n cefn gwlad.
Mae An Incremental Demise yn archwilio'r dewisiadau sy'n ein hwynebu ynghylch defnydd tir heddiw - wedi'i gyflwyno trwy straeon personol, tystiolaeth wyddonol, a phrotest gobeithiol am ein dyfodol.
Bydd fersiynau o'r arddangosfa hon yn teithio i YMa ym Mhontypridd ddiwedd 2025, ac yna hefyd yn teithio i Oriel y Bont , Trefforest ym mis Hydref 2026.
Bydd digwyddiadau wedi'u rhaglennu drwy gydol yr arddangosfa yn Ffotogallery, YMa ac Oriel y Bont yn cynnwys dangosiadau ffilmiau, trafodaethau panel a pherfformiadau ar bynciau'r gwaith.
Cefnogir y prosiect hwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Elusen Gwendoline a Margaret Davies.
Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni ac edrychwn ymlaen at eich gweld!