Pleser Menter Iaith Abertawe yw cyhoeddi’r manylion llawn ar gyfer Gŵyl Tawe ar ddydd Sadwrn y 10fed o Fehefin yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Yn ymuno gyda’r rhaglen cerddoriaeth fyw bydd Rogue Jones a Gillie. Hyn fydd perfformiad cyntaf Rogue Jones yn cefnogi eu ail albwm syfrdanol “Dos Bebés”, tra fod senglau diweddar Gillie ar Recordiau Libertino, “i ti” a “Llawn”, wedi gweld adolygiadau rhagorol a pherfformiadau fel rhan o Focus Wales.
Yn barod wedi eu cyhoeddi i chwarae ar draws llwyfan awyr agored Cymru Greadigol a llwyfan Coleg Gŵyr Abertawe yng nghanol yr amgueddfa mae Ani Glass, Hyll, Lloyd x Dom + Don, Los Blancos, MR, Sage Todz, She’s Got Spies, SYBS, a The Gentle Good, gydag Adwaith yn cau’r noson. Mae’r amserlen lawn ar gael fan hyn.
Yn dechrau’r digwyddiad yn y bore bydd sioe theatr ryngweithiol i deuluoedd gan Familia de la Noche. Ymunwch â Brogs y Bogs, archarwyr y llyffantod, a helpwch nhw i ffrwydro drwy'r ffosydd a difetha'r Cwac Tŷ Bach yn y sioe newydd hon! Dewch i neidio, dawnsio a chwerthin llond eich bol gyda'r amffibiaid anhygoel, fydd yn siŵr o ddiddanu'r teulu cyfan. Yn dilyn hyn bydd amrywiaeth o berfformiadau gan ysgolion lleol gan gynnwys corau, grwpiau dawns, ac offerynwyr.
Yng nghyntedd yr amgueddfa fe fydd arlwy o stondinau a gweithgareddau gan bartneriaid megis Coleg Gŵyr Abertawe, Siop Tŷ Tawe, Canolfan Celfyddydau’r Taliesin, yr Oriel Mission, a’r Mudiad Meithrin. Bydd gweithgareddau gwyddonol gan Technocamps, a bydd yr artist Rhys Padarn yn cynnig gweithdy yn galluogi mynychwyr i greu ychydig o waith yn ei arddull Orielodl eiconig. Bydd yna hefyd cyfleoedd i fwynhau sesiynau stori a chân gan Cymraeg i Blant, ac i dderbyn gwersi blasu gan Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe yn ystafelloedd dysgu’r amgueddfa.
Mae’r ŵyl yn hollol rad ac am ddim, a bydd yn rhedeg rhwng 10:00 a 20:00. Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, a gyda chefnogaeth gan Gyngor Abertawe, Cyngor Celfyddydau Cymru, Coleg Gŵyr Abertawe, a Llywodraeth Cymru trwy Cymru Greadigol.