Ar 21 Tachwedd, bydd cerddorion sy'n perfformio yn yr ieithoedd Gwyddeleg, Gaeleg a Chymraeg yn ymgynnull yng Nghymru ar gyfer cydweithrediad cerddorol a cherddoriaeth frodorol gyntaf MAMIAITH, gan ganolbwyntio ar ddathlu creu cerddoriaeth mewn ieithoedd brodorol. Mae'r prosiect hwn, dan arweiniad Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ac a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yn rhan o weithgareddau Cymru yn ystod Blwyddyn Ieithoedd Brodorol UNESCO 2019. Dros ddeg diwrnod, bydd cerddorion sy'n gweithio'n rhyngwladol yn eu mamiaith eu hunain o Gymru, Iwerddon a'r Alban yn archwilio materion yn ymwneud ag iaith, diwylliant a hunaniaeth frodorol a sut mae cerddoriaeth yn trosglwyddo iaith tra hefyd yn goroesi ffiniau ieithyddol ledled y byd.
Y cerddorion a ddewiswyd ar gyfer y cydweithrediad MAMIAITH gyntaf hwn yw: Georgia Ruth a Jordan Price Williams (Cymru), Doiminic Mac Griolla Bhride a Lauren Nī Chasaide (Iwerddon) a Rona Wilkie (Yr Alban). Tra bod traddodiad gwerin eu diwylliannau wedi rhoi sylfaen ar gyfer eu cerddoriaeth, mae eu mynegiant cerddorol bellach yn amrywio o'r traddodiadol i trance. Bydd yr awdur, cerddor a chyfansoddwr Lisa Jên o 9Bach yn cefnogi ac yn mentora'r cerddorion hyn yn ystod eu harhosiad yng nghanolbarth Cymru. Ei chydweithrediad Mamiaith gwreiddiol hi a 9Bach, gyda’r cerddorion brodorol o Awstralia, Black Arm Band, wnaeth ysbrydoli’r rhaglen UNESCO yng Nghymru. Bydd cerddorion MAMIAITH yn perfformio ac yn rhannu eu syniadau a'u mewnwelediadau yng Ngwyl Ein Llais yn y byd yn Aberystwyth ar yr 28ain o Dachwedd.
Daw’r gweithgaredd diweddaraf yma yn sgil Cynhadledd Gyntaf Cerddoriaeth Gynhenid gŵyl gerddoriaeth byd WOMEX yn Tampere Ffindir lle roedd materion hawliau diwylliannol ac ecsploitio creadigol wrth wraidd y drafodaeth ynghylch dad-drefedigaethu cerddoriaeth.
Wrth siarad am y prosiect a rhaglen Blwyddyn Ieithoedd Brodorol UNESCO, dywedodd Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:
“Mae stori goroesiad diwylliannol y Gymraeg yn atseinio gyda llawer o ddiwylliannau brodorol ledled y byd, ac mae ei thwf a’i huchelgeisiau cymharol a diweddar o ddiddordeb arbennig i genhedloedd Celtaidd eraill.
Wrth i ni ddathlu twf diwylliant a cherddoriaeth Gymraeg, rydym hefyd yn ymwybodol o safle cymharol freintiedig sydd gan y Gymraeg ynghyd a’r ieithoedd Gwyddeleg a Gaeleg o’u cymharu a ieithoedd brodorol y byd sydd mewn perygl. Y Gymraeg yw yr iaith Geltaidd a siaredir fwyaf yn y DU ac Iwerddon, mae ein hanes cymhleth o fod yn ddiwylliant sydd wedi ei threfedigaethu ond hefyd yn rhan o ddiwylliant trefedigaethol ehangach yn rhoi persbectif penodol inni ar faterion byd-eang cyfredol, a chyfrifoldeb i ymgymryd a materion o anghydraddoldebau diwylliannol, amrywiaeth ieithyddol, hawliau dynol a sgil-effeithiau eraill drefedigaethol.
Mae eleni yn ein herio ni i gyd i ystyried ein cyfrifoldebau byd-eang tuag at ddiwylliannau ac ieithoedd y byd sydd dan fygythiad. Gall ein profiad o gynllunio a throsglwyddo'r iaith Gymraeg fod yn ddefnyddiol i ieithoedd eraill trwy bolisïau cynllunio tra ein bod hefyd yn cydnabod bod gennym lawer i'w ddysgu o ddiwylliannau ac ieithoedd eraill o ran traddodi a throsglwyddo ein diwylliant."
CERDDORION MAMIAITH
Canwr-gyfansoddwr a thelynores o Gymru yw Georgia Ruth Williams. Enillodd ei halbwm cyntaf, Week of Pines (2013) glod beirniadol a chipiodd hi’r Wobr Gerddoriaeth Gymraeg yn 2013. Rhyddhaodd Georgia ei hail albwm Ffosil Scale yn Hydref 2016. @georgiaruth
Yn dilyn astudiaeth yn yr RWCMD, mae Jordan Price Williams wedi datblygu fel aml-offerynnwr a chanwr. Ar hyn o bryd mae’n aelod o fand VRï, sydd wedi ennill Gwobr Werin Cymru (a enwebwyd hefyd ar gyfer Gwobrau Gwerin BBC Radio 2 eleni), No Good Boyo, y triawd gwerin-jazz Elfen a’r grŵp grymus o bymtheg, Pendevig. www.vri.cymru
Mae Doimnic Mac Giolla Bhríde yn gerddor arbennig sean-nós o Gaoth Dobhair, Co. Donegal. Cafodd ei fagu yn ardal ddiwylliannol gyfoethog Gaeltacht gogledd-orllewin Donegal ac mae wedi bod yn frwd dros ddiwylliant Gwyddeleg ar hyd ei oes. Mae wedi rhyddhau pum CD a dau lyfr plant. Mae hefyd yn cyfarwyddo côr yn Belfast a chôr yn Gaoth Dobhair. www.doimnic.com
Mae Lauren Ní Chasaide yn gerddor o Ddulyn sy'n perfformio mewn Gwyddeleg a Saesneg. Yn 2018, cychwynnodd Lauren ar brosiect creadigol gyda’r cerddor electronig Raz Nitzan ac mae wedi cynhyrchu pum trac trance / dawns sydd wedi eu rhyddhau eleni. Ysgrifennodd Lauren y darn gair llafar 'Tarraingt' a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan REIC fel rhan o'r gyfres 'FísDán'. www.laurennichasaide.com
Mae Rona Wilkie yn chwaraewr ffidil ac yn gantores Gaeleg o Argyll. Mae’n Enillydd Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC. Mae hi'n cyfuno llais a ffidil i greu persbectif newydd ar gerddoriaeth yr Ucheldiroedd, ac mae wedi gwthio ffiniau ar gyfer ymdoddiad cerddorol â llawer o gerddorion rhyngwladol. Mae galw mawr amdani hefyd fel cyfansoddwr, ar ôl ysgrifennu New Voices ar gyfer Celtic Connections, a gomisiynwyd ar gyfer pedwarawd llinynnol a sawl sgôr ffilm.
Gwneir y cyfnod preswyl cerddorol hwn yn bosibl gan bartneriaeth rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Culture Ireland yn yr Iwerddon a Feis Rois yn yr Alban.
Am fwy o wybodaeth am Gynhadledd Cerddoriaeth Ieithoedd Cynhenid WOMEX wele dolenni at wefan WOMEX:
WOMEX - International Year of Indigenous Languages panel session information
WOMEX - The Global Sounds of Indigenous Resistance and Resurgence