Mae Magnetig yn rhwydwaith o 10 preswylfa yn Llydaw a Ffrainc a Chymru a Phrydain. Lansiwyd nhw yn 2022 dan ymbarél Prosiectau Celf Fluxus.

 

Yn 2024 mae Magnetig yn ehangu ei rwydwaith i gynnwys dwy breswylfa arall ym Mharis a Llundain. Yn y ddwy flynedd cyn hyn, roedd preswylfeydd i 10 partner rhyngwladol a 17 artist: Susie Green, Joshua Leon, High Nicholson, Zoé Williams, Chizu Anucha, Daria Blum, Tom Cardew, Charys Wilson a 9 artist o Lydaw a Ffrainc ym Mhrydain: Carla Adra, David Douard, Éléonore False, Azzedine Saleck, Antoine Viviani, Elise Charcosset, Francisco Rodríguez Teare, Laure Vigna, Maxime Voidy.

 

Mae’n 120 mlynedd ers y Gyd-ddealtwriaeth Gyfeillgar (“Entente Cordiale”) rhwng Prydain a Ffrainc. I ddathlu, bydd Magnetig 3 yn partneru â 10 sefydliad blaenllaw bob ochr i’r Sianel. I gryfhau’r berthynas rhwng y sefydliadau, mae pob preswylfa’n sefydlu cysylltiad rhwng Llydaw a rhanbarthau Ffrainc â’r pedair cenedl yma. Bydd artistiaid Llydaw a rhanbarthau Ffrainc yn ymgeisio am breswylfa mewn gwlad yma ac i'r gwrthwyneb. Bydd cysylltiadau rhwng: CAPC, Bordeaux/Nouvelle-Aquitaine a Chanolfan Gelf Wysing, Caergrawnt; Frac Llydaw,  Roazhon/Rennes â Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth; Frac Grand Large,  Dunkerque/Hauts-de-France â Stiwdios Celf Flax, Belffast/Béal Feirste; Villa Arson,  Nice/Provence-Alpes-Côte d'Azur â Pharc Cove, yr Alban; Bétonsalon, Canolfan Celf ac Ymchwil, Paris/Île-de-France â Gasworks, Llundain.

 

Nod Magnetig yw meithrin yn yr hirdymor ddatblygiad artistig drwy gyfnewid a gwella cydweithio cynaliadwy yn y celfyddydau gweledol rhwng gwledydd Prydain a Llydaw a Ffrainc. Mae gan y rhaglen sawl cryfder. Themâu cymdeithasol ac amgylcheddol fydd wrth wraidd y rhaglen. Disgwylir i'r 10 artist weithio ym mhob cyd-destun penodol, yn ddaearyddol, hanesyddol, cymdeithasol ac artistig. Cryfder arall yw’r tâl hael. Bydd artistiaid yn cael ffi fisol o 2500 € / £2,100, yn ogystal â mentora curadurol. Bydd pob preswylfa’n parhau am 2 fis a chael ei theilwra mewn trafodaeth â thîm curadurol y sefydliadau i gynnig cyfleoedd rhwydweithio i'r artist drwy’r breswylfa. Bydd artistiaid yn cael llety a lle i weithio.

 

Mae Magnetic yn gywaith newydd gan yr Institut français du Royaume-Uni a phedair asiantaeth ariannu celfyddydau Prydain gyda’r Cyngor Prydeinig, yr Institut français a Gweinyddiaeth Diwylliant Ffrainc.

Mae’n digwydd dan ymbarél Prosiectau Celf Fluxus, elusen a sefydlwyd gan yr Institut sydd hefyd yn ei rhedeg. Mae’n cael arian gan bartneriaid cyhoeddus Prydain a Ffrainc a rhoddwyr preifat. Daeth yn enwog dros y pedair blynedd ar ddeg diwethaf am ei safon artistig ac am gefnogi arddangosfeydd ac ymchwil curadurol bob ochr i’r Sianel.

 

Mae'r ceisiadau’n agor ar 21 Mai a chau ar 15 Gorffennaf 2024.

I ymgeisio, cyflwynwch gynnig artistig sy'n nodi pa mor berthnasol a gwahanol yw’ch diddordebau ymarfer ac ymchwil yng nghyd-destun y sefydliad dan sylw gyda thestun byr sy'n disgrifio pam rydych yn ymgeisio ar yr adeg yma yn eich gyrfa a'r manteision a ddisgwyliwch. Rhaid cyflwyno pob cais drwy wefan Prosiectau Celf Fluxus (https://fluxusartprojects.com/apply) lle mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen a'r 10 sefydliad.

Cyhoeddwn yr artistiaid llwyddiannus yn Hydref 2024. Bydd y preswylfeydd yn dechrau yn yr hydref, 2024.

 

Am ragor o wybodaeth : fluxusartp@gmail.com

Mae Magnetig yn cael cefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, yr Alban Greadigol, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon, Cyngor Celfyddydau Lloegr, y Cyngor Prydeinig, yr Institut français du Royaume-Uni, yr Institut français, Gweinyddiaeth Diwylliant Ffrainc, Gweinyddiaeth Ffrainc Ewrop a Materion Tramor.