Wedi’u creu gan Dumbworld mewn cyd-gynhyrchiad gydag Opera Cenedlaethol Iwerddon, bydd Music Theatre Wales yn sgrinio tair opera ddigidol yng Nghaerdydd, Hwlffordd a Mehefin eleni.

Gyda’r geiriau a’r cyfarwyddo gan John McIlduff, y gerddoriaeth gan Brian Irvine, ac wedi’i chyflwyno mewn cysylltiad â chystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2023, dyma opera fel actifiaeth, wedi’i thaflunio ar waliau ar ffurf celfyddyd stryd. Efallai y bydd yr operâu yn gwneud i chi chwerthin, ond hefyd i fynnu newid. Mae hon yn gyfres newydd o dair opera celfyddyd y stryd sy’n adlewyrchu ar y drychineb amgylcheddol rydym yn ei hwynebu, a’r diffyg gweithredu o ddifrif ar broblem yr hinsawdd.  

WON’T BRING BACK THE SNOW

Mae dwy arth wen – tad a merch – yn chwilota drwy’r biniau am rywbeth i’w fwyta. Mae’r ferch yn cael syniad: “This little white ass, gonna pay for our dinner!”

TRICKLE DOWN ECONOMICS

Ai “Bla Bla Bla” yw’r cyfan? Gyda phentwr o bapurau’n cynrychioli dêl arloesol arall eto fyth, mae’r gwleidyddion yn dathlu eu “llwyddiannau” ac yn eu rhyddhau eu hunain yn erbyn wal, gan foddi yn eu hunan-fodlonrwydd.

REVIVAL

Tir diffaith. Plant mewn mygydau nwy. Dadfeilio. Ond mae plant yn credu bod dyfodol yn bosibl, ac yn plannu hadau fydd yn tyfu’n blanhigion rhyfeddol, lliwgar.

Bydd yr holl gyflwyniadau’n digwydd yn yr awyr agored, gyda’r gynulleidfa’n gwrando ar yr operâu drwy glustffonau di-wifr – a ddarperir gennym ni.

Cyflwynir mewn cydweithrediad â BBC Canwr y Byd Caerdydd 2023.

Cyd-gynhyrchiad gyda Dumbworld ac Opera Genedlaethol Iwerddon

Bydd MTW hefyd yn cynnal hyfforddiant a ddarperir gan Dumbworld, crewyr Trioleg ‘The Scorched Earth’ – John McIlduff a Brian Irvine – ar gyfer artistiaid, crewyr cerddoriaeth, gwneuthurwyr ffilmiau ac animeiddwyr yn Nghymru. Rydym yn awyddus i ysbrydoli’r gwaith o greu Operâu Celfyddyd y Stryd yn y dyfodol, gan gyflwyno straeon, syniadau ac ymgyrchoedd o’ch dewis chi ar gyfer lleoliadau ledled Cymru – fel digwyddiadau cymunedol neu arddangosfa gyhoeddus ehangach – ar wal, drws, sied neu ochr bryn o’ch dewis chi! Gwyliwch y gofod hwn am ragor o gyhoeddiadau.