Ar draws y rhaglen, mae chwe artist annibynnol wedi creu gwaith newydd diddorol a llawn dychymyg mewn corneli amrywiol o hen archfarchnad Volcano ar Stryd Fawr Abertawe. Mae pob artist yn yn creu ac yn perfformio sioe newydd sbon o fewn cyfnod o bythefnos.

Bydd y ddwy sioe olaf yn cael eu perfformio gefn wrth gefn yr wythnos hon, gan ddechrau gyda NYTHU gan Elin Phillips, darn Cymraeg gyda dawnsio disgo, a ysbrydolwyd gan brofiad Elin fel mam newydd a phrif ofalwr. Mae Elin yn defnyddio rhai o ofodau ymylol yr adeilad i greu taith gynulleidfa gyda naws Kubrick ddryslyd.

Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan seinwedd/darn dawns Akeim Toussaint Buck SANC, sydd, mewn cyferbyniad, yn defnyddio haenau o sain sy’n deillio o natur a deialog rhwng dau ddawnsiwr ac ychydig o wrthrychau naturiol syml i adeiladu ‘noddfa’ rythmig ar y llwyfan.

Bydd y ddwy sioe yn cael eu perfformio ddydd Iau 13 i ddydd Sadwrn 15 Mehefin. Tocynnau o £5.