Casnewydd, byddwch yn barod i ymgolli ym myd bywiog y Gymraeg a’i diwylliant ym mhumed ŵyl flynyddol Gŵyl Newydd!
Ddydd Sadwrn 30 Medi 2023 bydd yr ŵyl yn dychwelyd i Theatr Glan yr Afon yng nghanol y ddinas ar gyfer gwledd gyffrous arall i'r synhwyrau.
O berfformiadau byw swynol gan artistiaid ifanc talentog lleol i weithdai a gweithgareddau rhyngweithiol, mae Gŵyl Newydd yn cynnig rhywbeth at ddant pawb.
Dewch i wybod mwy am harddwch y Gymraeg a'i diwylliant drwy gerddoriaeth, celf, sgyrsiau, gweithgareddau a chyfleoedd dysgu iaith.
Gan ddechrau am 11yb, bydd gan y digwyddiad chwe pharth gwahanol, pob un â chanolbwynt gwahanol drwy gydol y dydd; o berfformiadau gan ysgolion lleol i ddiddanwyr pobl ifanc, gweithgareddau i'r teulu a sgyrsiau llawn gwybodaeth gan siaradwyr gwadd.
Eleni, am y tro cyntaf yn hanes yr ŵyl, mae pob ysgol yn y ddinas wedi cael gwahoddiad i berfformio yn y digwyddiad. Bydd ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg o bob rhan o Gasnewydd ac ardaloedd cyfagos yn perfformio yn Gymraeg ar y prif lwyfan er mwyn arddangos eu doniau a'u sgiliau Cymraeg.
Dywedodd Dafydd Henry, Prif Swyddog Menter Iaith Casnewydd, “Mae'r ŵyl wedi bod yn digwydd yma yn y ddinas ers 2018, ac rwy'n falch iawn ein bod ni’n gallu ei chynnal hi eto am bumed flwyddyn yn olynol. Gyda rhaglen lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau’n cael eu cynnal, mae'r ŵyl eleni'n fwy ac yn well nag erioed a bydd llawer o gyfleoedd i ddysgwyr, siaradwyr, ac unrhyw un sy'n chwilfrydig ryngweithio â'r iaith Gymraeg a’i diwylliant yn ein dinas”.
Os ydych chi eisiau gwybod mwy am yr ŵyl, ewch i www.gwylnewydd.cymru neu cysylltwch â Menter Iaith Casnewydd dros y ffôn ar 07809 731578 neu anfonwch e-bost at gn@mentercasnewydd.cymru .