Rydym yn falch iawn o lansio Ewch i Weld - casgliad rhithiol cyffrous o brofiadau cyfoethogi ar gael i ysgolion a dysgwyr ledled Cymru.

Bydd y casgliad rhithiol hwn, sy’n ran o raglen Dysgu Creadigol trwy'r celfyddydau (partneriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru), yn rhoi mynediad i athrawon a dysgwyr i berfformiadau theatr, arddangosfeydd rhithiol, teithiau amgueddfa, mynediad tu ôl i'r llenni a mwy. Hyn oll yn rhoi mynediad i greadigrwydd i bawb a darparu profiadau diwylliannol newydd o fewn y cartrefi a'r ysgol. Mae hwn yn nodi cyfnod newydd i’n rhaglen ymweliadau byw hynod lwyddiannus, Ewch i Weld.

Gan weithio gydag amrywiaeth o sefydliadau celfyddydol a diwylliannol, bydd cyfleoedd yn cael eu hyrwyddo’n wythnosol trwy'r Parth Dysgu Creadigol, adnodd amhrisiadwy a gynhelir ar Hwb; platfform digidol Llywodraeth Cymru ar gyfer addysgu a dysgu yng Nghymru. Mae'r Parth Dysgu Creadigol yn darparu cyfoeth o wybodaeth dysgu creadigol i athrawon ac ysgolion sy'n gweithio tuag at Gwricwlwm newydd Cymru 2022. 

Mewn datganiad gan Diane Hebb, Cyfarwyddwr Ymgysylltu â’r Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Mae profiadau celfyddydol a diwylliannol, yn ddeniadol, yn ysbrydoledig, yn heriol, ac yn hwyl, ac mae’n chwarae rhan bwysig yn nysgu ein pobl ifanc ble bynnag yng Nghymru maent yn byw. Rydym ni’n credu y dylai ein plant a'n pobl ifanc gael cyfle i gael eu hysbrydoli a'u cyffroi gan y gorau sydd gan y celfyddydau yng Nghymru i'w gynnig. Mae profiadau fel y rhain yn rhan mor bwysig o brofiad addysg gyfan ein dysgwyr ac rwy'n edrych ymlaen at weld beth fydd yr ymateb o fewn y gofod digidol newydd hwn."

Porwch yr hyn sydd ar gael ar Ewch i Weld rhithiol yma.